Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant – hyrwyddwyr nodweddion a amddiffynnir
12 Rhagfyr 2017
Ar ddiwrnod cwrdd i ffwrdd Bwrdd Gweithredol y Brifysgol yn ddiweddar fe fues i’n arwain sesiwn ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, ac roeddwn wrth fy modd yn clywed am sut mae fy holl gydweithwyr yn sicrhau ein bod ni’n wir yn cyflawni ein hymrwymiad i gyflog, triniaeth a chyfle cyfartal, er mwyn cefnogi amrywiaeth a chreu cymuned agored, gynhwysol.
Penderfynwyd y byddai pob aelod o Fwrdd Gweithredol y Brifysgol yn hyrwyddwr ar gyfer un nodwedd benodol a amddiffynnir, gyda Colin Riordan a minnau yn parhau i hyrwyddo ar draws yr holl nodweddion. Rwy’n rhagweld y bydd hyn yn cadw materion cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ar flaen ein meddyliau ym mhopeth a wnawn. Rwy’n falch iawn o hynny, gan y bydd yn golygu bod modd i’m syniadau ynghylch y pwnc gael eu herio drwy bwyslais penodol.
Byddaf yn egluro rhywfaint am y nodweddion a amddiffynnir o dan y Ddeddf Cydraddoldeb (2010), sy’n gyfreithiol yn amddiffyn pobl rhag camwahaniaethu yn y gweithle ac yn y gymdeithas ehangach. Mae’r un Ddeddf hon wedi disodli cyfreithiau gwrth-wahaniaethu blaenorol, ac o ganlyniad mae’r gyfraith yn haws ei deall ac mae’r amddiffyniad yn gryfach mewn rhai sefyllfaoedd. Mae’n nodi’r gwahanol ffyrdd o drin rhywun sy’n anghyfreithlon, ac yn cwmpasu naw o nodweddion a amddiffynnir. Daw’r iaith a ddefnyddir isod yn uniongyrchol o Deddf Cydraddoldeb 2010, er ein bod yn cydnabod, mewn rhai achosion e.e. ailbennu rhywedd, bod iaith hon eisoes yn teimlo fel bod wedi dyddio gan gymunedau a effeithir arnynt gan y Ddeddf. Rydym wedi cydnabod hynny yn ein disgrifiadau. Mae hefyd yn bwysig cofio y gall gwahaniaethu ddigwydd pe tybir bod gan rhywun nodwedd warchodedig neu bod y person hwnnw’n gysylltiedig â rhywun sydd â nodwedd warchodedig:
- Oedran (Hyrwyddwr Bwrdd Gweithredol y Brifysgol – Rob Williams, Prif Swyddog Ariannol)
Mae’r Ddeddf yn amddiffyn pobl o bob oed. Fodd bynnag, nid yw triniaeth wahanol oherwydd oedran yn gamwahaniaethu anghyfreithlon uniongyrchol neu anuniongyrchol os gallwch ei chyfiawnhau (er enghraifft, os gallwch chi ddangos ei bod yn ddull cymesur o gyflawni nod dilys). Oedran yw’r unig nodwedd a amddiffynnir lle gall cyflogwyr gyfiawnhau gwahaniaethu uniongyrchol.
- Anabledd (Hyrwyddwr Bwrdd Gweithredol y Brifysgol – Amanda Coffey, Dirprwy Is-Ganghellor, Profiad y Myfyrwyr a Safonau Academaidd)
Mae gan berson anabledd os oes ganddynt nam corfforol neu feddyliol sy’n cael effaith andwyol sylweddol a hirdymor ar eu gallu i gyflawni gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd. Byddai hyn yn cynnwys pethau fel defnyddio ffôn, darllen llyfr neu ddefnyddio cludiant cyhoeddus. Mae’r Ddeddf yn rhoi dyletswydd ar y cyflogwr i wneud addasiadau rhesymol i staff i’w helpu i oresgyn anfantais sy’n deillio o nam (er enghraifft, drwy ddarparu technolegau cynorthwyol i helpu staff â nam ar eu golwg i ddefnyddio cyfrifiaduron yn effeithiol).
- Ailbennu rhywedd (Hyrwyddwr Bwrdd Gweithredol y Brifysgol – Ruedi Allemann, Dirprwy Is-Ganghellor y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg)
“Mae’r Ddeddf yn amddiffyn unigolion trawsrywiol. Mae person trawsrywiol yw rhywun sy’n bwriadu, sy’n dechrau neu sydd wedi cwblhau proses o newid rhywedd. Bellach, nid yw’r Ddeddf yn gofyn bod person o dan oruchwyliaeth feddygol i gael eu hamddiffyn – felly, er enghraifft, byddai menyw sy’n penderfynu byw fel dyn, ond heb fynd trwy unrhyw driniaethau meddygol, yn cael ei chynnwys. Mae’n gamwahaniaethu i drin unigolion trawsrywiol yn llai ffafriol am fod yn absennol o’r gwaith nag y byddent yn cael eu trin petaen nhw’n absennol oherwydd eu bod yn sâl neu wedi’u hanafu”
Nid diogelir unrhyw ryw heblaw dyn (sy’n cynnwys menyw yn y broses o newid i fod yn ddyn) a menyw (sy’n cynnwys dyn yn y broses o newid i fod yn fenyw) yn benodol o dan gyfraith y Deyrnas Unedig. Maent yn hunaniaethau anneuaidd – er enghraifft, y rheini y mae’n bosibl eu bod yn ystyried nad ydynt yn ddyn neu’n fenyw. Mae Prifysgol Caerdydd yn cydnabod ac yn cefnogi’r holl staff a myfyrwyr sy’n ystyried eu bod yn anneuaidd.
- Priodas a phartneriaeth sifil (Hyrwyddwr Bwrdd Gweithredol y Brifysgol – Jayne Sadgrove, Prif Swyddog Gweithredol)
Mae’r Ddeddf yn amddiffyn cyflogeion sydd wedi priodi neu mewn partneriaeth sifil rhag camwahaniaethu. Nid yw pobl sengl yn cael eu hamddiffyn.
- Beichiogrwydd a mamolaeth (Hyrwyddwr Bwrdd Gweithredol y Brifysgol – Claire Saunders, Cyfarwyddwr Cyfathrebu a Marchnata)
Caiff unigolion eu hamddiffyn rhag camwahaniaethu ar sail beichiogrwydd a mamolaeth yn ystod cyfnod beichiogrwydd ac unrhyw hawl i absenoldeb mamolaeth statudol. Yn ystod y cyfnod hwn, ni ellir trin camwahaniaethu ar sail beichiogrwydd a mamolaeth fel camwahaniaethu ar sail rhyw. Ni chewch gymryd cyfnod cyflogai o absenoldeb oherwydd salwch sy’n gysylltiedig â beichiogrwydd i ystyriaeth wrth wneud penderfyniad ynghylch y gyflogaeth.
- Hil (Hyrwyddwr Bwrdd Gweithredol y Brifysgol – Athro Nora de Leeuw, Dirprwy Is-ganghellor, Rhyngwladol ac Ewrop)
At ddibenion y Ddeddf, mae ‘hil’ yn cyfeirio at grŵp o bobl a gaiff eu diffinio gan eu hil, eu lliw a’u cenedligrwydd (gan gynnwys dinasyddiaeth), a’u tarddiad ethnig neu genedlaethol.
- Crefydd neu gred (Hyrwyddwr Bwrdd Gweithredol y Brifysgol – Hywel Thomas, Dirprwy Is-Ganghellor, Ymchwil, Arloesedd ac Ymgysylltu)
O dan y Ddeddf Cydraddoldeb, mae gan grefydd yr un ystyr ag arfer ond mae cred yn cynnwys credoau crefyddol ac athronyddol, gan gynnwys diffyg cred (megis Anffyddiaeth) neu fod yn ddi-grefydd. Yn gyffredinol, dylai cred effeithio ar eich dewisiadau mewn bywyd neu’r modd yr ydych yn byw i gael ei gynnwys yn y diffiniad. Diogelir cyflogeion neu geiswyr gwaith os nad ydynt yn dilyn crefydd benodol neu os nad oes ganddynt grefydd o gwbl. Yn ogystal, rhaid bod gan grefydd system gred a strwythur clir. Gellir ystyried enwadau neu sectau oddi mewn i grefydd yn grefydd neu gred grefyddol a amddiffynnir. Gall camwahaniaethu oherwydd crefydd neu gred ddigwydd hyd yn oed os oes gan y sawl sy’n camwahaniaethu a’r derbynnydd yn un crefydd neu gred.
Nid yw’r nodwedd hon yn cynnwys credoau gwleidyddol, credoau gwyddonol, na chefnogi timau pêl-droed.
- Rhyw (Hyrwyddwr Bwrdd Gweithredol y Brifysgol – TJ Rawlinson, Cyfarwyddwr Datblygu a Chysylltiadau Cyn-fyfyrwyr)
Mae’n bwysig cydnabod bod dynion a menywod yn cael eu hamddiffyn o dan y Ddeddf.
- Cyfeiriadedd rhywiol (Hyrwyddwr Bwrdd Gweithredol y Brifysgol – Gary Baxter, Dirprwy Is-Ganghellor Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd.
Ystyr cyfeiriadedd rhywiol yw cyfeiriadedd rhywiol unigolyn tuag at bersonau o’r un rhyw neu rywedd, pobl o’r rhyw neu rywedd arall, neu bobl o’r naill ryw neu rywedd neu’r llall.
Rydym wedi ychwanegu nodwedd arall nad yw’n cael ei hamddiffyn o dan y gyfraith (eto), ond sydd yn ein barn ni yn disgrifio ffynhonnell bwysig o anfantais:
Statws Sosio-economaidd (Hyrwyddwr Bwrdd Gweithredol y Brifysgol – George Boyne, Dirprwy-Is Ganghellor y Celfyddydau, y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol)
Mae statws sosio-economaidd yn cwmpasu nid dim ond incwm ond hefyd cyrhaeddiad addysgol, sicrwydd ariannol a chanfyddiadau goddrychol o statws cymdeithasol. Mae cyfatebiaeth rhwng statws sosio-economaidd isel a chyrhaeddiad addysgol is, tlodi a iechyd gwael. Mae dyletswydd foesol a dinesig arnom i geisio rhoi sylw i’r materion hyn.
Gobeithiaf y bydd pawb ohonoch yn ein cefnogi yn ein hymrwymiad i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, nid yn unig oherwydd ein rhwymedigaethau cyfreithiol ond hefyd oherwydd ein hachos moesol neu foesegol. Creu diwylliant sy’n cydnabod cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yw’r peth iawn i’w wneud i alluogi ein staff a’n myfyrwyr i fod pwy ydynt tra’u bod yn gweithio ac astudio.
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Rhagfyr 2022
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Medi 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014