Skip to main content

Y diweddaraf am Gyfarfodau

Bwrdd Gweithredol y Brifysgol, 9 Hydref 2017

9 Hydref 2017
  • Nodwyd bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi amlinelliad o’u cyllideb ar gyfer 2018/19 ac wedi cyhoeddi cronfa o £30 miliwn wedi’i neilltuo, £10 miliwn ym mhob un o’r tair blynedd nesaf, i gefnogi addysg uwch, ac y byddai’r Bwrdd yn cael ei friffio pan fyddai mwy o fanylion yn cael eu rhyddhau ar 24 Hydref 2017.
  • Nodwyd bod digwyddiad Prosiect Phoenix yn digwydd yn Oriel VJ heddiw i dynnu sylw at ymweliad diwrnod 12 gan academyddion o Brifysgol Namibia.
  • Nodwyd bod Times Higher Education yn rhyddhau safleoedd prifysgolion ar draws y byd fesul pwnc mewn blociau, gyda’r Gwyddorau Cymdeithasol yn safle 91, Busnes ac Economeg yn safle 92, ac Addysg yn safle 78.
  • Nodwyd y byddai Rheithor ac Is-reithor KU Leuven yn ymweld â’r Brifysgol ym mis Chwefror 2018.
  • Nodwyd bod tîm Myfyrwyr Fformwla’r Brifysgol wedi cael eu rhoi yn y safle uchaf yn y Deyrnas Unedig yn y tabl diweddaraf sy’n cymharu prifysgolion y byd.
  • Cyflwynwyd i’r Bwrdd y drafft diweddaraf oedd yn esbonio DPAion Y Ffordd Ymlaen. Byddai’r fersiwn derfynol yn cael ei hadolygu gan yr Is-Ganghellor cyn ei chyhoeddi ar y fewnrwyd ochr yn ochr â’r dogfennau strategaeth ac is-strategaethau newydd.
  • Cyflwynwyd i’r Bwrdd adolygiad ac argymhellion y Deoniaid. Cytunwyd, gyda rhai addasiadau, y dylai’r papur hwn yn awr gael ei gyflwyno i’r Senedd ar 25 Hydref.
  • Cyflwynwyd i’r Bwrdd bapur ar gyfer y Senedd yn cynnig newidiadau i Ordinance 9, oedd yn cynnwys adran yn cydnabod rôl Deoniaid Coleg a Phrifysgol, a’u penodiad.
  • Cyflwynwyd ei Ddatganiad Monitro Blynyddol ar gyfer Ffioedd a Chynllun Mynediad i’r Bwrdd.

Cyflwynwyd i’r Bwrdd yr adroddiadau rheolaidd canlynol

  • Adroddiad Chwarterol Dangosfwrdd Adnoddau Dynol
  • Adroddiad misol prosiectau Ystadau
  • Adroddiad misol Dirprwy Is-Ganghellor Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol
  • Adroddiad misol Dirprwy Is-Ganghellor Profiad y Myfyrwyr a Safonau Academaidd