
- Nodwyd bod yr Athro Baxter a’r Athro Thomas wedi cymryd rhan yn y cyfarfod adolygu sefydliadol blynyddol gyda chynrychiolwyr o’r Cyngor Ymchwil Feddygol (MRC).
- Nodwyd bod NERC DTP wedi’i ddyfarnu i Sefydliad Ymchwil Prifysgol y Dŵr.
- Nodwyd llwyddiant Hanner Marathon Prifysgol Caerdydd a bod Tîm Caerdydd wedi codi £60k hyd yma.
- Nodwyd bod cynhadledd y Cyngor wedi cael derbyniad da, yn ôl pob golwg, a bod cyflwyniad Mr Williams ar sefyllfa ariannol y Brifysgol wrth symud ymlaen wedi cael ei groesawu.
- Cyflwynwyd i’r Bwrdd ddrafft diweddaraf Cynhadledd y Staff Uwch, a bu’n ei drafod.
- Cyflwynwyd i’r Bwrdd ddiweddariad ar gynllun gwarantwyr y Brifysgol. Cytunwyd y dylai’r cynllun barhau a chael cyhoeddusrwydd ehangach ar y fewnrwyd i gynyddu ymgysylltiad myfyrwyr.
- Cyflwynwyd i’r Bwrdd adroddiad blynyddol Sefydliadau Ymchwil y Brifysgol (URI). Cafwyd nifer o sylwadau a chytunwyd y byddai Mr Williams yn cysylltu â’r Athro Thomas a Chynllunio Strategol i sicrhau eglurder yn y papur ac y byddai’r adroddiad yn dychwelyd at y Bwrdd ym mis Tachwedd 2017.
- Cyflwynwyd agenda ddrafft y Senedd i’r Bwrdd ei nodi.
Cyflwynwyd i’r Bwrdd yr adroddiadau rheolaidd canlynol
- Adroddiad cynnydd y Ganolfan Lled-ddargludyddion Cyfansawdd
- Diweddariad ar y System Arloesedd
- Diweddariad misol Ymchwil ac Arloesedd
- Diweddariad misol am y gweithgareddau ymgysylltu
- Diweddariad ar yr amgylchedd allanol