Skip to main content

Newyddion Aelodau’r Bwrdd

Pob lwc i bawb sy’n ymwneud â hanner Marathon Caerdydd

28 Medi 2017

Ddydd Sul bydd cannoedd o’n staff, myfyrwyr a chyn-fyfyrwyr yn eu herio eu hunain i redeg 13.1 milltir yn Hanner Marathon Prifysgol Caerdydd/Caerdydd.

Maent ymhlith y 25,000 o redwyr, sef y nifer mwyaf erioed yn y ras eleni, yr hanner marathon ail fwyaf yn y DU.

Mae tua 350 o redwyr wedi cofrestru fel rhan o’n #TîmCaerdydd i godi cyllid sylweddol i ymchwil y Brifysgol i ganser a niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl gyda 100% o’r elw’n mynd at yr ymchwil hwn.

Hoffwn ddiolch yn fawr i #TîmCaerdydd i gyd am eich ymrwymiad. Gallaf eich sicrhau bod eich cefnogaeth yn cael ei werthfawrogi’n fawr.

Rwyf i’n gwybod hefyd bod nifer fawr o’n staff, myfyrwyr a chyn-fyfyrwyr yn rhedeg dros achosion gwych eraill, a bod llawer hefyd yn rhoi o’u hamser i wirfoddoli o amgylch y cwrs. Dylech i gyd fod yn falch iawn o’ch hunain.

Fi sydd a’r fraint o gychwyn y don gyntaf o redwyr am 10:00 ddydd Sul, ac yna byddaf yn gweiddi i annog cynifer ohonoch â phosibl drwy gydol y ras. Pob lwc!