
- Cyflwynwyd i’r Bwrdd ddogfen ddrafft oedd yn esbonio DPAion Y Ffordd Ymlaen. Byddai’r ddogfen hon yn cael ei phostio ar y fewnrwyd ar yr un pryd â’r strategaeth a’r is-strategaethau, er mwyn dangos sut roedd sylwadau o’r ymgynghoriad wedi derbyn sylw, ac i helpu i esbonio pam roedd y DPAion wedi cael eu dewis. Awgrymwyd nifer o newidiadau i wella eglurder y ddogfen ac wedyn byddai’r papur yn dychwelyd at y Bwrdd i’w gadarnhau’n derfynol.
- Nodwyd bod Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet ar gyfer Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, wedi lansio BSc newydd ryngosod yr Ysgol Feddygaeth, sy’n enghraifft o waith partneriaeth rhwng y Brifysgol a GIG Cymru.
- Cyflwynwyd i’r Bwrdd ymateb y Brifysgol i’r arolwg ar-lein i lywio cyflwyniad UUK i ymgynghoriad cyhoeddus y Comisiwn Ewropeaidd ar raglen fframwaith ymchwil ac arloesi nesaf yr UE, ac fe’i cymeradwywyd.
Cyflwynwyd i’r Bwrdd yr adroddiadau rheolaidd canlynol
- Adroddiad misol y Prif Swyddog Gweithredu
- Adroddiad chwarterol datblygu a chysylltiadau cyn-fyfyrwyr
- Diweddariad Campws Arloesedd Caerdydd
- Adroddiad misol Dirprwy Is-Ganghellor Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd