Skip to main content

Y diweddaraf am Gyfarfodau

Bwrdd Gweithredol y Brifysgol, 11 Medi 2017

11 Medi 2017
  • Cafodd Bwrdd Gweithredol y Brifysgol ddrafftiau terfynol Y Ffordd Ymlaen 2018-23 a’r is-strategaethau fydd yn cael eu cyflwyno i’r Cyngor i’w cymeradwyo.
  • Cafodd a chymeradwyodd y Bwrdd bapur y polisi risg drafft a oedd yn amlinellu polisi rheoli risg drafft, gan gynnwys categorïau arfaethedig ar gyfer gwahanol fathau o risg, a’r lefel archwaeth risg arfaethedig.
  • Cafodd a nododd y Bwrdd Gyflwyniad Ysgrifenedig y Myfyrwyr.  Cafodd y Bwrdd ymateb y Brifysgol i Gyflwyniad Ysgrifenedig y Myfyrwyr. Mae fformat yr ymateb yn wahanol i’r blynyddoedd blaenorol; mae’n nodi clystyrau o argymhellion sy’n gysylltiedig â themâu allweddol, gan amlinellu meysydd lle cymerwyd camau eisoes, lle mae camau ar waith, neu lle mae camau wedi eu cynllunio ar gyfer y sesiwn academaidd sydd i ddod, ac yn cynnig cyfres o brosiectau partneriaeth ar y cyd ar gyfer 2017/18.  Bydd y ddau bapur nawr yn cael eu cyflwyno i’r Cyngor.
  • Cafodd a nododd y Bwrdd bapur sy’n amlinellu’r cyntaf o benderfyniadau cychwynnol y cyrff ariannu ar Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021 yn dilyn yr ymgynghoriad diweddar.
  • Nodwyd bod yr Athro Thomas wedi mynd i’r seremoni llofnodi ffurfiol lle roedd Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a Llywodraethau Cymru a’r DU wedi cymeradwyo’r bwriad i ddatblygu clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd yn Ne-ddwyrain Cymru, a Ffowndri Clwstwr Lled-ddargludyddion Cyfansawdd yng Nghasnewydd.
  • Nodwyd bod yr Athro Patrick Sutton, o’r Grŵp Ffiseg Ddisgyrchol, wedi rhoi’r ddarlith agoriadol i gynulleidfa lawn yng nghyfres darlithoedd Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg.
  • Nodwyd bod Dr Chris Jones, Cadeirydd presennol Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf, wedi’i benodi’n Gadeirydd Cysgodol Addysg a Gwella Iechyd Cymru.

Cafodd y Bwrdd yr adroddiadau rheolaidd canlynol:

  • Adroddiad misol y Dirprwy Is-Ganghellor Profiad Myfyrwyr a Safonau Academaidd
  • Adroddiad misol Dirprwy Is-Ganghellor Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol
  • Adroddiad misol yr Ystadau