Skip to main content

Newyddion Aelodau’r Bwrdd

Eisteddfod Genedlaethol Cymru

31 Gorffennaf 2017
Yr Athro Thomas ym mhabell Prifysgol Caerdydd yn Eisteddfod 2016 gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns
Yr Athro Thomas ym mhabell Prifysgol Caerdydd yn Eisteddfod 2016 gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns

Bydd miloedd o bobl fydd yn ymweld â’r Eisteddfod Genedlaethol eleni ar Ynys Môn, rhwng 4 a 12 Awst, yn clywed am gyfraniad enfawr Prifysgol Caerdydd i Gymru.

Dan arweiniad Dr Hefin Jones a’r tîm Ymgysylltu, mae cydweithwyr ar draws y Brifysgol wedi bod yn gweithio’n galed ers misoedd i drefnu mwy na 30 o ddigwyddiadau, gan gynnwys dadleuon, darlithoedd, trafodaethau a gweithgareddau eraill.

Ein thema ar gyfer 2017 yw Cysylltu Caerdydd – yr hyn sy’n cysylltu Prifysgol Caerdydd a’i myfyrwyr, staff a chynfyfyrwyr â Chymru a’r tu hwnt.

Rydym yn sefydliad sy’n canolbwyntio ar gefnogi ein cymunedau, felly mae hysbysu pobl am yr hyn rydym yn ei wneud a’r manteision yr ydym yn eu cyfrannu at y wlad yn hollbwysig.

Fel un o’r 30,000 o ymwelwyr â’n pafiliwn yn yr Eisteddfod y llynedd, roeddwn i wrth fy modd i weld pobl a ddaeth i stondin y Brifysgol yn dangos diddordeb mawr yn ein gweithgareddau.

Mae ein trafodaethau a dadleuon yn denu torfeydd mawr ac rwy’n siŵr na fydd eleni yn wahanol. Rydym yn archwilio pynciau o bwys mawr, megis pleidlais Cymru i adael yr UE, pam enillodd Llafur yng Nghymru unwaith eto yn Etholiad Cyffredinol 2017, sut caiff Cymru ei phortreadu ar y teledu, a sut gall Ynys Môn ddatblygu’r meddygon sydd eu hangen arni.

Rwy’n gobeithio y bydd y rhai ohonoch sy’n mynd yno eleni yn cael amser gwych, ac yn mwynhau popeth sydd gan yr ŵyl ddiwylliannol Gymraeg unigryw hon i’w gynnig.

Rhagor o wybodaeth am ein gweithgareddau