Skip to main content

Newyddion Aelodau’r Bwrdd

Cyfeillion Enfys

25 Awst 2017

Cyn bo hir, byddaf yn darllen drwy ein cyflwyniad i Fynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall. Mae’r cyflwyniad yn caniatáu i ni fesur ein hymroddiad i gydraddoldeb ym maes LGBT ac asesu lle mae angen i ni ganolbwyntio er mwyn atgyfnerthu ein hymroddiad i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.

Mae’r gwaith rydym yn ei gyflawni yn y maes hwn wedi taro tant ynof fi yn ddiweddar, yn fwy felly nag arfer.  Bydd llawer ohonoch wedi gweld y newyddion gofidus o America lle gwnaeth Donald Trump ddatgan, mewn cyfres o drydariadau, y byddai’n gwahardd pobl drawsrywiol rhag gwasanaethu’n agored yn lluoedd arfog yr Unol Daleithiau.  Y llynedd, gwnaethom ddathlu cyfraniad pobl drawsrywiol i’r lluoedd arfog yn y wlad hon trwy roi Cymrodoriaeth er Anrhydedd i’r Capten Hannah Winterbourne, y milwr trawsrywiol uchaf ei radd ym Mhrydain.  Mae Hannah yn esiampl rôl gwych. ac mae ei gwasanaeth yn gyfwerth ag eiddo unrhyw un arall.

Bydd unrhyw un sy’n fy nabod yn ymwybodol fy mod i’n gefnogwr pêl-droed brwd uffernol. O’r herwydd, gwyliais gyda thristwch mawr raglen ddogfen bêl-droed a gyflwynwyd gan Gareth Thomas, ‘Hate in the Beautiful Game’.  Mae Gareth yn sôn yn y rhaglen ddogfen am sut y cafodd ei ddychryn gan ba mor gyffredin oedd geiriau homoffobig gelyniaethus.  Teimlaf yn gryf y bydd pobl mewn unrhyw rôl yn perfformio’n well os gallant fod yn nhw eu hunain wrth weithio, ac mae geiriau diofal a gelyniaethus yn parhau i fod yn ffactor mawr sy’n atal hyn. Mae hyn i gyd wedi digwydd o gwmpas pen-blwydd  50 mlynedd dad-droseddoli cyfunrhywiaeth yng Nghymru a Lloegr, ac mae’n ein hatgoffa o’r holl waith sydd eto i’w wneud ar draws y DU a ledled y byd.

Gall cymryd rhan yn Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall ymddangos fel ymarfer ticio blychau arall, ond mae’n llawer, llawer mwy na hynny.  Mae’n ddatganiad gweladwy i’n darpar staff a myfyrwyr yn ogystal â rhai cyfredol fod cydraddoldeb LGBT yn bwysig yng Nghaerdydd, ac ni fyddwn yn goddef homoffobia, biffobia neu drawsffobia.  Rydym yn parhau i weithio’n galed i sicrhau bod ein polisïau a’n harferion oll yn gynhwysol, ac fe groesawn adborth ynghylch sut y gallwn wella hyn. Ar hyn o bryd, rydym yn gwneud newidiadau i’n polisi Hunaniaeth Draws a Rhywedd i adlewyrchu’r ymrwymiad hwn.

Pan fyddaf yn meddwl am ein gwaith ym maes cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, caf fy atgoffa o bwysigrwydd ein cynghreiriaid. Os cyd-safwn, rydym oll yn gryfach o lawer ac yn fwy o sbardun i newid.  Mae gan rwydwaith LGBT+ ein staff, Enfys, grŵp cynghreiriaid y gallwch ymuno ag ef o’r enw ‘Cyfeillion Enfys’. Byddwn yn argymell i bawb gymryd rhan a helpu i greu awyrgylch lle mae ein cyd-weithwyr LGBT yn gallu bod yn falch o’u hunain, boed ym myd y campau, yn y gweithle neu unrhyw ffurf ar wasanaeth cyhoeddus.

Cyfeillion Enfys