Skip to main content

Newyddion Aelodau’r Bwrdd

Dathlu ein rhagoriaeth ym maes pensaernïaeth

29 Mehefin 2017

Fel Dirprwy Is-Ganghellor mae’n bwysig i mi gysylltu’n rheolaidd â chydweithwyr a myfyrwyr ar draws Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg, ac rwy’n bwriadu ymweld â phob un o’r saith Ysgol dros y misoedd nesaf.

Dros yr wythnosau diwethaf rydw i wedi ymweld ag Ysgol Pensaernïaeth Cymru sawl gwaith. Roeddwn i’n bresennol yng nghyfarfod staff yr Ysgol, a mwynheais ddwy daith dywys o gwmpas Adeilad Bute, a gofod newydd yr Ysgol yn Friary House. Roedd yn wych dysgu mwy am y cyfleusterau, a chlywed am sut mae’r Ysgol yn gwneud yn siŵr bod ei myfyrwyr presennol yn cyfrannu at y broses ddylunio, ac yn cael dweud eu dweud o ran sut y dylai’r gofod gae ei drefnu.

Ymunais hefyd â myfyrwyr yn eu blwyddyn olaf, eu teuluoedd, a’u ffrindiau, i agor eu Harddangosfa Graddio 2017. Mae’r arddangosfa’n gyfle gwych i weld gwaith caled y myfyrwyr, a phleser oedd gweld faint o bobl ddaeth i’r digwyddiad agoriadol. Cafwyd darlith ddiddorol a difyr gan Phil George, Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru, ynglŷn â rôl pensaernïaeth a phrifysgolion yn y gymdeithas. Roedd y digwyddiad yn llwyddiant mawr, ac yn gwneud i mi feddwl am y cysylltiad rhwng dyluniad, celf, a busnes, a’u pwysigrwydd i’n prifysgol a’r gymdeithas ehangach.

Mae enw rhagorol Ysgol Pensaernïaeth Cymru wedi’i adlewyrchu’n ddiweddar yn arolwg blynyddol The Architects Journal o’r 100 o bractisau gorau yn y DU (AJ100), ac roedd ein Hysgol ymhlith y tair ysgol pensaernïaeth orau yng ngwledydd Prydain.