Skip to main content

Y diweddaraf am Gyfarfodau

Bwrdd Gweithredol y Brifysgol, 12 Mehefin 2017

12 Mehefin 2017
  • Nodwyd yn dilyn canlyniad yr etholiad cyffredinol bod Swyddfa’r Cabinet wedi cadarnhau y byddai cyfyngiadau purdah ar gyhoeddiadau cyhoeddus yn parhau tan fod Llywodraeth newydd wedi’i ffurfio ac felly bod cyhoeddi canlyniadau’r Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu wedi’i ohirio.
  • Cafodd y Bwrdd bapur ar lefelau ffioedd 2018/19 a chytunodd y dylai lefelau ffioedd i fyfyrwyr israddedig llawn amser a rhan amser yn y DU/UE barhau i adlewyrchu polisi Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018/19, wrth aros am gadarnhad o lefelau ffioedd israddedig y DU/UE.
  • Cafodd y Bwrdd yr ymateb drafft i Adolygiad Reid o Ymchwil ac Arloesi a Ariennir gan y Llywodraeth yng Nghymru. Byddai mwy o waith yn cael ei wneud ar y papur a byddai’r fersiwn terfynol yn dychwelyd i’r Bwrdd i’w gadarnhau ddiwedd mis Mehefin.
  • Cytunodd y Bwrdd ar amserlen arfaethedig cynllunio gweithredu gan y Colegau mewn ymateb i ganlyniadau arolygon myfyrwyr y sefydliad ar gyfer adrodd yn 2017/18.
  • Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am drefniadau cydweithio rhwng y Brifysgol a sefydliadau’r GIG yng Nghymru. Nodwyd bod disgwyl y byddai Mr Len Richards yn ymgymryd â’i swydd yn Brif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ar 19 Mehefin 2017.

Cafodd y Bwrdd yr adroddiadau rheolaidd canlynol:

  • Y diweddaraf am geisiadau
  • Adroddiad Misol a Blaengynllun y Cyfarwyddwr Cyfathrebu a Marchnata
  • Adroddiad misol Rhyngwladol ac Ewrop y Dirprwy Is-Ganghellor
  • Adroddiad Misol Dirprwy Is-Ganghellor Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg.