
- Derbyniodd y Bwrdd ddrafft diweddaraf Y Ffordd Ymlaen 2018-2023 a sylwadau o’r ymgynghoriad diweddar. Cafwyd trafodaeth ar y dangosyddion perfformiad allweddol a’r dangosyddion arweiniol. Cytunwyd i ailagor yr ymgynghoriad tan 30 Mehefin i gynnig cyfle pellach i staff ymateb. Bydd hyn yn golygu oedi i ystyriaeth y Cyngor o fersiwn terfynol Y Ffordd Ymlaen 2018-23 tan y cyfarfod yn ystod Diwrnod Cwrdd i Ffwrdd y Cyngor ym mis Medi 2017, yn amodol ar gytundeb Cadeirydd y Cyngor.
- Nodwyd y byddai canlyniadau’r Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu ar gyfer Caerdydd yn cael eu rhyddhau dan embargo ar 10 Mehefin 2017, ar gyfer y sector ar 11 Mehefin ac yn cael eu cyhoeddi’n genedlaethol ar 12 Mehefin 2017.
- Nododd yr Athro Holford ei bod yn mentora grŵp Dyfodol Caerdydd ar wirfoddoli gan staff a bod croeso i bawb ymuno â hi ac aelodau o’r grŵp ar 8 Medi 2017 ar brosiect cadwraeth awyr agored.
- Cafodd a chymeradwyodd y Bwrdd y datganiad blynyddol ar Uniondeb Ymchwil. Caiff hwn nawr ei anfon ymlaen i’r Senedd.
- Cafodd y Bwrdd y Polisi Diogelu Plant ac Oedolion mewn Perygl. Cadarnhaodd y Bwrdd y Polisi i’w gymeradwyo gan y Pwyllgor Llywodraethu a’r Cyngor.
- Cafodd y Bwrdd y newyddion diweddaraf am y gwasanaeth archwilio mewnol i’w nodi.
Cafodd y Bwrdd yr adroddiadau rheolaidd canlynol:
- Adroddiad misol y Dirprwy Is-Ganghellor Profiad Myfyrwyr a Safonau Academaidd
- Adroddiad misol Dirprwy Is-Ganghellor Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol.
- Adroddiad misol yr Ystadau