
- Nodwyd llongyfarchiadau’r Bwrdd i’r Athro Pamela Taylor CBE, yr Athro Malcolm Mason OBE, Dr Alison Parken OBE a Wendy Sadler MBE a gydnabuwyd yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines.
- Nodwyd bod dirprwyaeth nesaf Cyngor Ysgoloriaeth Tsieina wedi cyrraedd a’r gobaith oedd y byddai cyfranogwyr yn cael cyfle i ymweld ag Ysgolion i gael trafodaethau’n gysylltiedig â disgyblaethau gyda staff.
- Nodwyd bod yr Athro Damien Murphy wedi’i benodi’n Bennaeth yr Ysgol Cemeg.
- Nodwyd ymweliad Syr Mark Walport â’r Brifysgol ar 22 Mehefin 2017 ynghyd â’i barodrwydd i wrando ar syniadau’n gysylltiedig â diwydiant, heb fod yn gyfyngedig i STEM.
- Cafodd y Bwrdd bapur ar ganlyniad Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu (TEF) y Brifysgol, a gyflawnodd ddyfarniad arian, canlyniad oedd yn adlewyrchu safle’r Brifysgol o ran ansawdd addysgu gyda dadansoddiad o’r canlyniadau i’w gynnal i ddeall sut i gyflawni canlyniad gwell yn y dyfodol. Diffinnir arian fel ‘cyflenwi addysgu, dysgu a chanlyniadau ansawdd uchel i’w myfyrwyr sydd yn gyson yn rhagori ar ofynion cenedlaethol trylwyr ar gyfer addysg uwch yn y DU.’ Ymysg rhai o’r cryfderau a nodwyd yng nghais Caerdydd oedd cefnogi rhagoriaeth addysgu, buddsoddi yn ein campws, symudedd byd-eang, dysgu a arweinir gan ymchwil, cyfraddau cadw myfyrwyr da a sicrhau bod ein graddedigion yn barod ar gyfer byd gwaith. Nodwyd y byddai HEFCE yn cynnal adolygiad o’r Fframwaith cyfan gan gynnwys y meincnodau cyn cyhoeddi manyleb y TEF seiliedig ar bynciau.
- Cafodd y Bwrdd bapur oedd yn amlinellu cynnig drafft ar gyfer strwythur llywodraethu ar gyfer y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) nesaf ac amserlen amlinellol yn arwain at y cyflwyniad nesaf. Cytunwyd ar y strwythur gyda rhai mân ddiwygiadau.
- Cafodd y Bwrdd bapur yn cynnwys dadansoddiad o safle marchnad presennol y Brifysgol a’r argymhellion a wnaed i wella ansawdd israddedigion cartref ac ehangu recriwtio myfyrwyr rhyngwladol.
- Cafodd y Bwrdd bapur ar Gydweithio mewn Arloesi dan y Bartneriaeth Strategol rhwng Prifysgolion Caerdydd a Xiamen. Nodwyd nad oedd gan y berthynas rhwng prifysgolion Caerdydd a Xiamen, hyd yma, ffocws penodol ar arloesi ac amlygodd y papur weithgareddau cyfredol yn y ddau sefydliad gan awgrymu meysydd lle gellid datblygu cydweithio mewn arloesi.
- Cafodd y Bwrdd bapur ar y polisi ‘Hawliau Cyllidwyr’ newydd a chytunwyd, yn amodol ar rai mân newidiadau, i fabwysiadu’r weithdrefn gwyno newydd o ran codi arian.
- Cafodd y Bwrdd yr ymateb terfynol i Adolygiad Reid o Ymchwil ac Arloesi a Ariennir gan y Llywodraeth yng Nghymru ac fe’i cymeradwywyd i’w gyflwyno.
- Cafodd y Bwrdd Adroddiad Canfyddiadau Rhanddeiliaid Gwleidyddol Beaufort 2017 i’w nodi.
- Cafodd y Bwrdd bapur ar Bapur Gwyn Llywodraeth Cymru: Budd y Cyhoedd a Chymru Ffyniannus. Byddai ymateb drafft i’r ymgynghoriad yn dod gerbron y Bwrdd ym mis Medi.
- Nodwyd bod dymuniadau gorau’r Bwrdd yn cael eu hestyn i Mr Davies, yn ei gyfarfod olaf, am ymddeoliad hir a hapus a mynegodd yr Is-Ganghellor ddiolch i Mr Davies am ei wasanaeth hir i’r Brifysgol ac am ei ymdrechion llwyddiannus a’i reolaeth ddarbodus.
Cafodd y Bwrdd yr adroddiadau rheolaidd canlynol:
- Diweddariad chwe misol am ddiogelwch a lles y staff
- Y diweddaraf am Adeiladau Arloesedd a’r Amgylchfyd Cyhoeddus
- Adroddiad chwarterol Sefydliadau Ymchwil y Brifysgol
- Adroddiad misol y Prif Swyddog Gweithredu
- Adroddiad misol y Dirprwy Is-Ganghellor
- Y newyddion diweddaraf am y System Arloesedd
- Adroddiad misol Ymchwil ac Arloesedd
- Y newyddion diweddaraf am y gweithgareddau ymgysylltu
- Adroddiad Chwarterol Dangosfwrdd Adnoddau Dynol