Dathlu Menywod Talentog yng Nghymru
23 Mawrth 2017Roedd digwyddiad dydd Llun diwethaf yn y Senedd, Caerdydd, yn ddiwrnod ysbrydoledig i fenywod ym meysydd STEM. Daeth arweinwyr o bob lefel ym myd busnes, academia a’r llywodraeth ynghyd i fynd i’r afael â’r prinder menywod ym meysydd gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg yng Nghymru.
Daeth EHB y Dywysoges Frenhinol, Julie James, y Gweinidog dros Sgiliau a Gwyddoniaeth, a phanel o ferched a menywod STEM dawnus o ysgolion lleol i’r digwyddiad hwn i Ddathlu Menywod Talentog a drefnwyd gan ymgyrch WISE. Cafwyd trafodaethau am yr anawsterau, sut i’w goroesi yn ogystal ag enghreifftiau o’r gwaith sy’n cael ei wneud ar hyn o bryd a rhannu arferion da ymysg ein gilydd.
Fe gyflwynodd bob un o’n harweinwyr diwydiannol syniadau ymarferol a meddylgar a chafwyd trafodaeth fywiog mewn ymateb i gwestiynau gan y gynulleidfa. Fel Noddwr Brenhinol WISE, cafodd EHB y Dywysoges Frenhinol y cyfle i gwrdd â merched lleol sy’n cymryd rhan mewn sesiynau Pobl Fel Fi, sy’n annog merched i astudio pynciau STEM.
Roedd brwdfrydedd amlwg yn yr ystafell i arwain y newid sydd ei angen mewn diwylliant. Mae hyn yn hanfodol er mwyn ein galluogi i gael amgylcheddau gwaith gwirioneddol gynhwysol. Ar ddiwedd y digwyddiad, fe wnaeth bawb addewid gyfrannu at y newid hwn.
Cafodd yr adroddiad a ysgogodd y digwyddiad hwn, Menywod Talentog ar gyfer Cymru Lwyddiannus, ei gomisiynu gan yr Athro Julie Williams, Prif Gynghorydd Gwyddonol Cymru, a chafodd ei gadeirio ar y cyd gennyf i a’r Athro Hilary Lappin-Scott. Erbyn hyn, mae’r wyth sefydliad addysg uwch yng Nghymru wedi derbyn yr argymhellion sy’n ymwneud ag AU, ac mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn pob un o’r 33 yn yr adroddiad, ar draws pob sector.
Mae gan Brifysgol Caerdydd gynlluniau i annog rhagor o recriwtio a dilyniant gyrfa i academyddion benywaidd, ac mae eisoes saith menyw allan o 12 aelod i gyd ar y Bwrdd Gweithredol, sy’n uwch na’r nifer ar gyfartaledd ym mhrif brifysgolion y DU.
Mae’r Brifysgol hefyd wedi ymuno â WISE i archwilio ein proses recriwtio drwy ‘ddatgodio rhyw,’ er mwyn sicrhau bod ein hysbysebion yn denu digon o ymgeiswyr benywaidd ar gyfer swyddi academaidd yn y Gwyddorau Ffisegol. Mae’r datgodiwr yn asesu a yw hysbyseb wedi cael ei eirio mewn ffordd gwrywaidd neu fenywaidd gryf, rhag ofn ei fod yn annog merched i beidio â gwneud cais.
Diwrnod Rhyngwladol y Merched
Cefnogwyd Diwrnod Rhyngwladol y Merched (8 Mawrth) yn dda iawn ar draws Prifysgol Caerdydd. Trefnodd Rhwydwaith Menywod mewn Gwyddoniaeth Caerdydd (CIWS) ddiwrnod o ddigwyddiadau, a noddwyd gan EPSRC, ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig a staff gyda’r nod o’u helpu i ddatblygu eu gyrfa mewn gwyddoniaeth. Cynhaliwyd sesiynau amrywiol yn ystod y diwrnod gan gynnwys rhai ar godi proffil gwyddonol, esbonio gwyddoniaeth i gynulleidfa ehangach, a deall rhagfarn anymwybodol.
Lansiwyd hefyd Women@Cardiff, arddangosfa ffotograffiaeth sy’n cynnwys portreadau newydd o fenywod a enwebir yn unigol drwy gyfrifon cyfryngau cymdeithasol y Brifysgol. Caiff y rhain ei harddangos nes ymlaen yn y flwyddyn yn Oriel VJ.
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Rhagfyr 2022
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Medi 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014