
- Nodwyd bod yr Athro Rudolf Allemann wedi’i benodi’n Ddirprwy Is-Ganghellor Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg o 3 Ebrill 2017.
- Nodwyd bod yr Athro Holford wedi derbyn gwahoddiad i gymryd rhan yn adolygiad Llywodraeth Cymru o ymchwil ac arloesedd o dan arweiniad yr Athro Graeme Reid.
- Cafodd y Bwrdd bapur am y dewisiadau posibl o ran sefydlu presenoldeb yn Ewrop cyn i’r DU adael yr UE. Cafwyd trafodaethau am fanteision posibl presenoldeb o’r fath. Cytunwyd y dylid ystyried nifer o sefydliadau mewn gwahanol wledydd a chael rhagor o gyngor cyfreithiol.
- Cafodd y Bwrdd y drafftiau diweddaraf o is-strategaethau Y Ffordd Ymlaen ar gyfer 2018-23 yn ogystal â’r DPau allweddol lefel uchel ac is-strategol. Cytunwyd ar y DPau allweddol lefel uchel a chaiff y rhain eu cyflwyno yng nghyfarfod yr uwch-aelodau staff ar 3 Ebrill i’w trafod.
- Cyflwynwyd Rhaglen Buddsoddi Cyfalaf y Brifysgol i’w nodi. Caiff y papur ei gyflwyno nawr gerbron y Pwyllgor Polisi ac Adnoddau a’r Cyngor.
- Cafodd y Bwrdd ymateb drafft y Brifysgol i bapur gwyrdd y Strategaeth Ddiwydiannol. Cytunwyd y byddai crynodeb gweithredol yn cael ei gynnwys er mwyn amlygu’r prif bwyntiau.
Cafodd y Bwrdd yr adroddiadau rheolaidd canlynol:
- Adroddiad Chwarterol Dangosfwrdd Adnoddau Dynol
- Y newyddion diweddaraf am y System Arloesedd
- Adroddiad misol am ymchwil
- Adroddiad misol am y gweithgareddau ymgysylltu
- Adroddiad chwarterol Datblygu a Chysylltiadau Cynfyfyrwyr
Adroddiad am yr amgylchedd allano