Skip to main content

Newyddion Aelodau’r Bwrdd

Hyrwyddo’r Wythnos Siarad

7 Chwefror 2017

Rydym yn Brifysgol arloesol ac uchelgeisiol ac mae proses ar waith fydd yn ei newid yn sylweddol. Mae’n bwysig ein bod yn cyfathrebu’r newid hwn ac yn gwrando ar wahanol safbwyntiau o bob rhan o’r Brifysgol.

Mae’n wythnos siarad y myfyrwyr a’r staff yr wythnos hon – cyfle i fyfyrwyr a staff fel ei gilydd roi eu hadborth er mwyn ein helpu i wneud hwn y lle gorau i weithio ac astudio ynddo.

Undeb y Myfyrwyr sy’n trefnu’r wythnos siarad. Caiff myfyrwyr eu hannog i ymgysylltu â’r 1,000+ o bobl sy’n eu cynrychioli i rannu eu safbwyntiau am bob agwedd ar fod yn fyfyriwr yma. Gall myfyrwyr hefyd ddweud wrthym beth bydden nhw’n ei wneud pe bydden nhw’n rheoli’r Brifysgol. Darllenwch ragor am wythnos siarad y myfyrwyr a beth gafodd ei gyflawni y llynedd mewn ymateb i’w hadborth

Eleni, mae wythnos siarad y staff yn canolbwyntio ar bedwar digwyddiad mawr gan gynnwys arddangosfa gyda thros 20 o stondinau. Bydd hyn yn rhoi cyfle i’r staff roi eu mewnbwn am y newidiadau sy’n cael eu cyflwyno, rhoi eu barn, a chael cefnogaeth er mwyn eu helpu i ddysgu a datblygu yn eu gwaith. Mae Dirprwy Is-Gangellorion ein tri choleg a Phrif Swyddog Gweithredu staff y Gwasanaethau Proffesiynol yn arwain ar ddigwyddiad sydd hefyd yn cynnwys seminar gydag aelodau eraill Bwrdd Gweithredol y Brifysgol, gan roi cyfle i’r staff ofyn cwestiynau. Bydd llawer o weithdai’n cael eu cynnal hefyd i helpu datblygiad y staff e.e. sut i wella eich gweithle digidol a’ch CV. Gall staff gofrestru yma

Daw’r wythnos i ben gydag arolwg staff 2017. Dyma gyfle i’r holl staff gael dweud eu dweud am sut beth yw gweithio yma.

Hoffwn annog ein holl staff a’n myfyrwyr i fanteisio ar y cyfleoedd hyn, meddwl am ffyrdd newydd o wneud pethau, a’n herio ni i wella a datblygu.