Dathlu ein pobl ragorol
22 Tachwedd 2016Neithiwr, cefais y fraint o gyflwyno ein Gwobrau Dathlu Rhagoriaeth blynyddol. Mae’r gwobrau yn dathlu’r bobl ragorol sy’n gweithio’n ddiflino i wella profiad y myfyrwyr ac annog arloesedd yn ein dysgu a’n haddysgu. Maent hefyd yn hynod greadigol o ran sut maent yn gwella bywydau yn y Brifysgol, ein cymuned ac, mewn nifer o achosion, y ddynoliaeth yn gyffredinol.
Mae’r gwobrau yn rhai arbennig dros ben gan fod pob enwebai – ac roedd 178 ohonynt eleni – wedi’u henwebu gan eu cydweithwyr. Felly, mae enwebiad yn dangos sut mae cydweithwyr cyfagos wedi sylwi ar y gwahaniaeth y mae pobl yn ei wneud a bod y cyfraniad wedi bod mor arwyddocaol fel y dylid tynnu sylw ato ar draws y gymuned gyfan.
Ac mae’r 178 o bobl hynny wedi gwneud cynifer o bethau arbennig ac amrywiol. Bob blwyddyn, mae panel y beirniaid yn gorfod pendroni’n fawr wrth ddewis yr enillwyr. Yn y lle cyntaf, rhaid llunio rhestr ymhlith yr enwebiadau cyn penderfynu ar enillydd ym mhob un o’r deunaw categori. Mae pob enwebiad yn cael ei ganmol; mae pob un sydd ar y rhestr fawr wedi’u canmol yn fawr gan y beirniaid ac fe’u gwahoddir i’r cinio a’r seremoni wobrwyo.
Felly, fe gynhaliwyd digwyddiad eleni yn y Neuadd Fawr yn Undeb y Myfyrwyr, a chafodd ei thrawsnewid (ychydig fel Sinderela) yn lleoliad crand a hudolus am y noson. (Cyn i Sinderela gael ei thrawsnewid yn ôl am 11pm y tro yma!). Roedd y lle yn llawn cyffro wrth i ni wylio ffilmiau oedd yn dangos beth oedd ein cydweithwyr wedi’i wneud. Anaml y cawn y cyfle i oedi a sylweddoli beth mae’r bobl yn y Brifysgol yn ei wneud: fe wnaeth y ffilmiau wneud i ni deimlo’n falch o’n cydweithwyr a’r Brifysgol.
Roeddwn wrth fy modd pan gyhoeddais mai’r Athro Frank Dunstan o’r Ysgol Meddygaeth oedd enillydd y wobr arbennig cyflawniad oes. Mae wedi treulio’i yrfa yn cefnogi ac yn gwella gobeithion ei gydweithwyr, ac mae hefyd yn ysbrydoliaeth barhaus yn Is-adran Meddygaeth y Boblogaeth.
Diolch i bawb a enwebwyd; i bawb ar y rhestr fer ac i’r enillwyr. Rydym yn falch iawn ohonoch.
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Rhagfyr 2022
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Medi 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014