Darlith Cartref Arloesedd Laura Tenison
22 Tachwedd 2016Rydw i wrth fy modd i gyhoeddi ein bod wedi lansio ein cyfres ddarlithoedd ‘Cartref Arloesedd’ mewn steil gydag araith wych gan Laura Tenison MBE, Rheolwr Gyfarwyddwr JoJo Maman Bébé.
Roedd brwdfrydedd Laura dros arloesedd a busnes moesegol yn amlwg wrth iddi amlinellu ei thaith bersonol mewn darlith yn dwyn y teitl: ‘Doing well whilst doing good – ethical innovation and the ‘triple bottom line’’.
Dechreuodd busnes Laura diolch i’w rhieni i ryw raddau. Gwnaethant adael iddi storio dillad yn eu sied, ac yna yn eu hystafell fyw. Tyfodd y busnes i mewn i ffatri yng Nghasnewydd, yna dwy ffatri, ac mae bellach yn fusnes byd-eang â throsiant gros o £55m, 750 o weithwyr a mwy na 70 o siopau yn y DU.
Mae moeseg wrth wraidd brand boutique mamau a babanod mwya’r DU. Mae Laura’n credu gryf – ac mae’r dystiolaeth yn brawf o hyn – fod busnesau’n sbardun ar gyfer gwneud gwahaniaeth.
Roedd tua 100 o westeion yn Ysgol Busnes Caerdydd i glywed Laura’n sôn ei bod yn treulio ‘mwy o amser nag y dylai mewn gwirionedd’ ar Gyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol, neu CSR, o gyflogi timau o gefndiroedd amrywiol i gyflawni statws Corfforaeth B – un o blith 120 o gwmnïau yn y DU sy’n rhannu’r anrhydedd o fod yn fusnes moesegol cydnabyddedig.
Rhannodd Laura ei syniadau ar arloesedd ym mhob rhan o’r cwmni, gan ddweud wrthym sut y gwnaeth magu ei phlant ei hun ei helpu i ddatblygu cynhyrchion newydd, a sut mae deall anghenion mamau a babanod yn allweddol i ddeall y farchnad.
Mae gwaith Laura yn estyn i bedwar ban byd. Mae JoJo wrthi’n cynyddu eu cyfran o’r farchnad yn y DU, ac yn gwerthu mewn 50 o wledydd. A hithau’n un o ymddiriedolwyr blaenllaw’r elusen-gwmni Nema Foundation, mae Laura’n gweithio i daclo tlodi plant ym Mozambique – nod tebyg i waith yr Athro Judith Hall, sy’n gweithio yn y Brifysgol, sy’n ceisio trawsnewid bywydau yn Namibia.
Gwnaethom estyn diolch i Laura am noson arbennig. Edrychaf ymlaen at y ddarlith Cartref Arloesedd nesaf yn 2017 – ac i weld mwy o fusnesau’n ymuno â Laura drwy roi pobl a’r blaned o flaen elw.
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Rhagfyr 2022
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Medi 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014