Gweledigaeth gymunedol ar gyfer y dyfodol
28 Hydref 2016Cafwyd trafodaethau ysbrydoledig a gweledigaethol yn y Pafiliwn Bowlio yn Grangetown yr wythnos ddiwethaf, pan es i i’r gweithdy ac arddangosfa yno fel rhan o’r prosiect ymgysylltu Porth Cymunedol. Cafodd y diwrnod ei drefnu gan fyfyrwyr o Ysgol Pensaernïaeth Cymru, ac roedd yn cynnwys cymysgedd o gerddoriaeth fyw a thaith gerdded o gwmpas yr ardal leol.
Ymunodd Vaughan Gething AC (Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon) a Stephen Doughty, yr AS lleol, mewn sesiynau trafod lleol gyda thrigolion Grangetown, prosiect Pafiliwn y Grange, y sefydliad celfyddydol Art Shell, sydd wedi’i leoli yn Grangetown, Gweithredu Cymunedol Grangetown, Athro Cal-Poly Fulbright a Chyfarwyddwr Rhaglen Ddinesig San Fransisco R Thomas Jones, a’r Athro Kevin Morgan, Deon Ymgysylltu. Roedd y trafodaethau yn fywiog, ac yn ystyried gwelliannau cymunedol lleol, tymor byr, yn ogystal â rhai mwy dros y tymor hir. Roedd y syniadau a gododd yn y trafodaethau’n hynod ddiddorol, ac yn cynnwys cau strydoedd am ddiwrnod i alluogi plant i chwarae, datblygu apiau diwylliannol ar-lein, a hyd yn oed plannu cnydau bwytadwy mewn mannau nad ydynt yn cael eu defnyddio.
Tra roeddwn i ym Mhafiliwn y Grange, roedd yn ddiddorol clywed am yr amryw weithgareddau a ddatblygwyd eisoes rhwng y Brifysgol, y gymuned, a phartneriaid yn y trydydd sector fel rhan o’r prosiect. Yn ogystal â’r gwelliannau diweddar yn y Pafiliwn, mae’r prosiectau cydweithredol eraill yn cynnwys ffurfio rhedwyr Grangetown (yn sgil Pencampwriaethau IAAS/Hanner Marathon y Byd Prifysgol Caerdydd), Wythnos Ddiogelwch Gweithredu Cymunedol Grangetown, sesiynau criced, rhaglen fentora pêl droed, fforwm ieuenctid, dosbarthiadau celf Stiwdio Bee, diwrnod ymwybyddiaeth iechyd meddwl, arolygon synhwyro torfol amgylcheddol, gardd gymunedol, gardd peillwyr, Caffi Athroniaeth, a hyd yn oed menter gymdeithasol i gynhyrchu hufen iâ. Mae’n deg dweud bod Porth Cymunedol yn enghraifft wych o sut gall mentrau cydweithredol â’r gymuned dan arweiniad y Brifysgol arwain at welliannau cymunedol sylweddol. Bydd y cynnig diweddar dan arweiniad y gymuned i gefnogi Trosglwyddo Asedau Cymunedol ar gyfer Pafiliwn y Grange a’r tir o’i gwmpas yn sylfaen gadarn ar gyfer gweithgareddau’r presennol a’r dyfodol, er mwyn sicrhau bod y prosiect yn wir yn gynaliadwy.
Am ragor o wybodaeth am y Porth Cymunedol, cliciwch yma.
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Rhagfyr 2022
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Medi 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014