Skip to main content

Y diweddaraf am Gyfarfodau

Bwrdd Gweithredol y Brifysgol, 26 Medi 2016

26 Medi 2016
  • Nodwyd bod Cam 7 y rhaglen Mannau Dysgu Ffisegol wedi’i gymeradwyo a bod pob man yn gwbl weithredol.
  • Nodwyd y cynhaliwyd yr adolygiad cyfnodol o’r Adran Gyllid ar 21-22 Medi 2016 ac fe ymgysylltwyd mewn modd adeiladol ar draws y Gwasanaethau Proffesiynol, yr Ysgolion a’r Colegau.
  • Nodwyd y cynhaliwyd Cynhadledd yr Hydref y Gwasanaethau Proffesiynol ar 23 Medi 2016 ac y cafodd cynllun gweithredol y gwasanaethau proffesiynol ei lansio yn ystod y gynhadledd.
  • Nodwyd bod yr Athro de Leeuw wedi cynnal diwrnod cwrdd i ffwrdd rhyngwladol ar gyfer Deoniaid, Ysgolion a chysylltiadau’r Gwasanaethau Proffesiynol, a chyflwynwyd argymhellion ynghylch cyfathrebu a gwefan y Brifysgol. Yn ôl pob golwg, roedd yr Ysgolion yn frwd o blaid y syniad o gael ysgolion haf a chaiff hyn ei ystyried ymhellach.
  • Cafodd y Bwrdd y fersiwn ddiweddaraf o ddrafft y strategaeth, Y Ffordd Ymlaen 2018-23. Caiff y papur ei ddiweddaru yn dilyn y sylwadau a gyflwynwyd a chaiff ei drafod ar Ddiwrnod Cwrdd i Ffwrdd y Cyngor nes ymlaen yn yr wythnos.
  • Cafodd y Bwrdd bapur am ganlyniadau Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr a’r camau nesaf. Cytunwyd y byddai’r Bwrdd yn cael rhagor o fanylion mewn pythefnos.
  • Cafwyd cynllun gweithredu’r adolygiad sefydliadol, ac fe’i cymeradwywyd.
  • Cafodd y Bwrdd bapur am raglenni ymgysylltu ynglŷn â chynaliadwyedd staff a myfyrwyr. Cytunodd y Bwrdd i gymeradwyo’r cam gweithredu y dylai’r holl Golegau a Gwasanaethau Proffesiynol gymryd rhan yn Effaith Gwyrdd.

Cafodd y Bwrdd yr adroddiadau rheolaidd canlynol:

  • Yr Adroddiad Misol ar Weithgarwch Ymchwil ac Arloesi.
  • Adroddiad am weithgareddau Ymgysylltu.
  • Y newyddion diweddaraf am y System Arloesedd
  • Dangosfwrdd chwarterol Adnoddau Dynol