Skip to main content

Newyddion Aelodau’r Bwrdd

Cynhadledd Dysgu ac Addysgu’r Ganolfan Arloesedd Addysg

6 Gorffennaf 2016

Pleser o’r mwyaf oedd agor Cynhadledd Dysgu ac Addysgu’r Ganolfan Arloesedd Addysg heddiw ar thema Dysgu Gweithredol. Roedd pob tocyn ar gyfer y digwyddiad wedi’i bachu ymhen pythefnos ac roedd yn wych gweld ystod mor eang o gydweithwyr y gwasanaethau academaidd a phroffesiynol yno.

Drwy gydol y dydd, bu’r rhai a oedd yno yn ystyried y cwestiwn anodd – “ai dyma ddiwedd y ddarlith?” (casgliad: nid yn gyfan gwbl), yn ogystal â sesiynau rhyngweithiol ar “ennyn diddordeb myfyrwyr fel partneriaid ac asiantau dros newid” a “dysgu ymarferol ar sail problem” a safbwyntiau amrywiol staff a myfyrwyr ar ddysgu gweithredol. Roedd sgyrsiau cryno’r prynhawn pedair munud o hyd yn ysgogol ac yn heriol ac roedd yn arbennig o galonogol gweld sut mae rownd gyntaf o brosiectau Cronfa Arloesedd Addysg y Ganolfan eisoes yn cymryd siâp. Yn wir, amlygodd y wefr a gafwyd drwy gydol y diwrnod (gweler #ceilt16) i fi sut yn union y mae’r Ganolfan wedi helpu i godi proffil rhagoriaeth dysgu ac addysgu ar draws y Brifysgol ers iddi gael ei lansio ym mis Tachwedd diwethaf. Mae’n argoeli’n dda ar gyfer y dyfodol.