Skip to main content

Y diweddaraf am Gyfarfodau

Bwrdd Gweithredol y Brifysgol, 27 Mehefin 2016

27 Mehefin 2016
  • Trafododd y Bwrdd y materion oedd yn ymwneud â’r bleidlais ddiweddar i adael yr UE. Cytunwyd y dylid ffurfio Grŵp Wrth Gefn a pharhau i gwrdd dros yr haf i wneud yn siŵr bod gwybodaeth a negeseuon yn cael eu rhannu mewn cyd-destun fydd yn newid yn gyflym, a bod yr un neges yn cael ei rhannu ar draws pob rhan o’r Brifysgol.
  • Nodwyd bod Cynhadledd Flynyddol Academia Europaea yn cael ei chynnal rhwng 27 a 30 Mehefin 2016, a bod y ganolfan gydlynu, fydd yn rhoi cyngor gwyddonol i’r UE, yn cael ei lansio heddiw.
  • Nodwyd y byddai’r Athro Price yn mynd i seremoni lansio ‘Caerdydd 2020’ Cyngor Caerdydd ar 29 Mehefin 2016. Strategaeth yw hon fydd yn ceisio codi safonau dysgu ac addysgu mewn ysgolion.
  • Nodwyd bod nifer o aelodau’r Bwrdd yn gysylltiedig â digwyddiadau ar gyfer dirprwyaeth o Gyngor Ysgoloriaethau Tsieina oedd yn cymryd rhan mewn rhaglen hyfforddiant 12 wythnos o hyd rhwng 20 Mehefin a 9 Medi 2016.
  • Cafodd y Bwrdd yr ymatebion drafft i ymgynghoriad technegol TEF ac ymgynghoriad DLHE.
  • Cafodd y Bwrdd bapur am y cyfleoedd a gynigir gan Yammer. Os oes angen, bydd staff yr adran Cyfathrebu a Marchnata yn gallu darparu hyfforddiant.

Cafodd y Bwrdd yr adroddiadau rheolaidd hyn

  • Adroddiad misol y Rhag Is-Ganghellor
  • Yr Adroddiad Misol ar Weithgarwch Ymchwil ac Arloesi.
  • Adroddiad am weithgareddau Ymgysylltu.
  • Y newyddion diweddaraf am y System Arloesedd