Neges gan yr Is-Ganghellor
24 Mehefin 2016
Annwyl Gydweithiwr
Mae canlyniad refferendwm yr UE yn glir: maes o law, bydd Prydain yn gadael yr UE. Yn ôl pob tebyg, bydd y broses yn para am gyfnod sylweddol; ar hyn o bryd, nid yw’n bosibl dweud pa mor hir yn union, ond mater o flynyddoedd yn hytrach na misoedd. Er y bydd cyfnod o ansicrwydd yn y cyfamser, a hynny yng nghyd-destun nifer o faterion sydd yn effeithio arnom, o ymchwil i faterion myfyrwyr a staffio, bydd gennym ddigonedd o amser i gadarnhau’r manylion, i ystyried y canlyniadau ac i ddod i ba farn bynnag sydd yn angenrheidiol. Byddwn yn cyflwyno gwybodaeth a chyngor manwl i gydweithwyr sydd yn ddinasyddion gwledydd eraill yr Undeb Ewropeaidd cyn gynted ag y bydd ar gael, ond mae hawliau cyflogaeth, preswylfod a hawliau eraill yn parhau i fod mewn grym. Nid oes disgwyl i hynny newid yn y tymor byr na’r tymor canolig. Tâl inni gofio bod llawer o gydweithwyr yn ddinasyddion gwledydd o’r tu allan i’r UE ac mewn rhai achosion maent wedi bod gyda ni ers blynyddoedd lawer. Dylid sicrhau myfyrwyr ac ymgeiswyr o wledydd eraill yr UE y bydd y Brifysgol yn anrhydeddu ei holl ymrwymiadau iddynt, ac eto, byddwn yn cyflwyno cyngor a chanllaw manwl cyn gynted ac y bydd ar gael. Bydd Universities UK yn gwneud cryn ymdrech er mwyn cael eglurder ar yr hyn a fydd yn digwydd o ran cyllid ymchwil yr UE, ac yn y cyfamser, dylem barhau i weithredu yn ôl yr arfer. Byddwn yn eich diweddaru’n rheolaidd fel y bo’n briodol.
Rydym yn ffodus o fyw mewn democratiaeth lle y gellir cael gwybod beth yw ewyllys y bobl a’i pharchu. Boed hynny drwy etholiad cyffredinol neu, drwy refferendwm, fel yn yr achos hwn, byddwn yn gweithio yng nghyd-destun canlyniadau penderfyniadau gwleidyddol tyngedfennol ac yn sicrhau’r canlyniadau gorau posibl i’r Brifysgol, ein myfyrwyr, ein staff a’n rhanddeiliaid. Rydym yma ers mwy na 100 mlynedd ac rydym wedi gweld newidiadau lawer. Rydym yn sefydliad a all addasu, sefydliad sydd yn uchelgeisiol ac yn llwyddiannus. Ni fydd hynny’n newid: yn y byd newydd hwn, rwyf yn hyderus y byddwn yn chwilio am y manteision gorau, nid yn unig i’r Brifysgol, ond i Gymru, y DU a’r byd. Y dasg bwysig nawr yw inni uno, a manteisio ar y cyfleoedd a ddaw yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd a pharhau i adeiladu ar ein llwyddiannau lu.
Gyda dymuniadau gorau
Colin Riordan
Is-Ganghellor
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Rhagfyr 2022
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Medi 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014