Annog y drafodaeth am iechyd meddwl
21 Mehefin 2016Iechyd meddwl yw un o faterion pwysicaf yr oes sydd ohoni. Bydd un o bob pedwar ohonom yn cael problemau iechyd meddwl, ac ni ellir gorbwysleisio’r effaith a gaiff ar unigolion a chymdeithas.
Mae cyfryngau cymdeithasol a blogiau’n benodol yn ffyrdd poblogaidd i rai sy’n byw gyda salwch meddwl rannu eu profiadau a lleihau’r stigma.
Fodd bynnag, ychydig iawn o sôn sydd am ymchwil, polisïau ac arferion sy’n ymwneud ag iechyd meddwl ym myd y blogiau.
Ar 7 Mehefin, yr un diwrnod ag agoriad swyddogol Canolfan Ymchwil Delweddu’r Ymennydd, Prifysgol Caerdydd, lansiwyd Blog Iechyd Meddwl Prifysgol Caerdydd.
Nod y blog yw rhannu ein harbenigedd yn y maes hwn, ac annog trafodaeth adeiladol am faterion sy’n ymwneud ag iechyd a salwch meddwl. Gyda lwc, bydd yn cynnig llwyfan er mwyn trafod elfennau meddygol, cymdeithasol, economaidd a chyfreithiol ehangach iechyd meddwl.
Er enghraifft, mae ein blog cyntaf gan yr Athro Mike Owen yn ystyried yr heriau a wynebir gan y rhai sy’n gweithio ym maes iechyd meddwl, a’r galw am ystyried achosion, diagnosis, triniaeth a gofal mewn ffyrdd newydd.
Rydym am i’r blog fod yn gymysgedd o sylwebaeth ac ymchwil, ac iddo gael ei lywio gan y materion pwysig sy’n cael eu trafod ym maes iechyd meddwl.
Os ydych yn ymchwilio neu’n gweithio ym maes iechyd meddwl, a hoffech gyfrannu at y blog, cysylltwch ag Alison Tobin (TobinA@caerdydd.ac.uk).
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Rhagfyr 2022
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Medi 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014