Skip to main content

Y diweddaraf am Gyfarfodau

Bwrdd Gweithredol y Brifysgol, 13 Mehefin 2016

13 Mehefin 2016
  • Nodwyd bod y rhifyn diweddaraf o Herio Caerdydd wedi’i gyhoeddi, a bod cyhoeddiad newydd o’r enw Cartref Arloesedd nawr ar gael hefyd.
  • Nodwyd bod yr Athro de Leeuw wedi mynd i seremoni cyhoeddi’r Proffeswriaethau Brenhinol ym Manceinion ar 6 Mehefin 2016.
  • Nodwyd bod Syr David Grant wedi’i urddo’n farchog am ei wasanaethau ym meysydd peirianneg, technoleg a sgiliau yn y DU. Llongyfarchwyd Syr David gan y Bwrdd ar ei gydnabyddiaeth yn ogystal â’i gyflawniadau yn ystod ei gyfnod fel Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd, gan gynnwys ei rôl wrth uno â Choleg Meddygaeth Prifysgol Cymru.
  • Cafodd y Bwrdd bapur am sut mae’n ymgysylltu â FutureLearn ar hyn o bryd, a sut gallai hynny ddatblygu yn y dyfodol. FutureLearn sy’n cefnogi datblygiad y cyrsiau MOOC (Cyrsiau Ar-lein Agored Enfawr).
  • Cafodd y Bwrdd bapur am y broses benodi yn ogystal â manylion am ddisgrifiad swydd Cyfarwyddwr yr Academi Ddoethurol.
  • Cafodd y Bwrdd bapur am safleoedd mewn tablau cynghrair. Nodwyd y byddai’n ddefnyddiol cael gwybod pa ddulliau mesur sy’n cael yr effaith fwyaf er mwyn i’r Brifysgol allu canolbwyntio arnynt. Bydd papur am y cyfeiriad a argymhellir ar gyfer y Brifysgol yn cael ei gyflwyno i’r Bwrdd ym mis Medi 2016.

Cafodd y Bwrdd yr adroddiadau rheolaidd hyn

  • Newyddion gan y Tîm Datblygu a Chysylltiadau Cynfyfyrwyr
  • Adroddiad misol Dirprwy Is-Ganghellor Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg