Skip to main content

Newyddion Aelodau’r Bwrdd

Ymgynghoriad ynghylch Canolfan Bywyd Myfyrwyr

8 Mehefin 2016

Rwyf yn falch dros ben bod Cyngor y Brifysgol bellach wedi cymeradwyo’r achos i adeiladu Canolfan Bywyd Myfyrwyr ym Mhlas y Parc, y drws nesaf i Undeb y Myfyrwyr. Dyma fuddsoddiad arbennig ym mhrofiad y myfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd a fydd yn trawsnewid gwasanaethau myfyrwyr anacademaidd.

Bydd y Ganolfan, sydd wedi’i datblygu ar y cyd ag Undeb y Myfyrwyr, yn cynnwys adeilad newydd a fydd yn agor ym mlwyddyn academaidd 2019/20 a bydd nifer o adnoddau ar y we yno i helpu myfyrwyr i fanteisio ar y gwasanaethau ardderchog a gynigir. Bydd yr adeilad newydd yn fan croeso ac yn ganolfan ar gyfer ymholiadau gan myfyrwyr. Bydd gwasanaethau cefnogi ar gael yno yn ogystal â lle ar gyfer digwyddiadau fel ffeiriau gyrfaoedd, darlithfa newydd, amgylcheddau dysgu sy’n cynnwys y dechnoleg ddiweddaraf, man astudio hyblyg a chymdeithasol ac amrywiaeth o siopau a lleoedd sy’n gwerthu bwyd. Drwy fod y drws nesaf i Undeb y Myfyrwyr, bydd modd datblygu ‘campws penodol i fyfyrwyr’ yn y Brifysgol; bydd bod ar agor am ragor o oriau a defnyddio technolegau hyblyg yn caniatáu’r fenter hon i gyrraedd pob un o’n myfyrwyr, ble bynnag y maent wedi’u lleoli.

Rydym yn awyddus iawn i rannu ein cynlluniau gyda staff a rhanddeiliaid allweddol eraill wrth i ni gwblhau cynlluniau y byddem yn eu cyflwyno i’r Cyngor lleol ar gyfer gymeradwyaeth cynllunio. Felly, gobeithiaf y gall cynifer ohonoch â phosibl ddod i’n harddangosfa ar 15 Mehefin rhwng 11:00 a 19:00 yn Oriel VJ yn y Prif Adeilad. Bydd arddangosfa o’r cynigion diweddaraf ar gyfer y Ganolfan yn y digwyddiad, a bydd aelodau o’r tîm ystadau a’r ymgynghorwyr dylunio a chynllunio wrth law i egluro’r cynlluniau ac ateb unrhyw ymholiadau.

Hoffwn annog pawb i ddod i’r digwyddiad i gael gwybod rhagor.