
- Cafodd y Bwrdd gyflwyniad am ddyluniad diwygiedig Canolfan Bywyd y Myfyrwyr gan Tom Jarman (FeildenCleggBradley Studio) y pensaer sy’n gweithio ar y prosiect. Nodwyd y byddai’r byrddau dylunio i’w gweld yn Oriel VJ yr wythnos nesaf yn rhan o’r ymgynghoriad cyhoeddus.
- Nodwyd bod y Brifysgol wedi cael Proffeswriaeth Frenhinol. Ni yw’r brifysgol gyntaf yng Ngymru i gael y dyfarniad hwn.
- Cafodd y Bwrdd bapur am sut bydd y Papur Gwyn am Addysg Uwch a Mesur Addysg Uwch ac Ymchwil, yn effeithio ar Gymru. Nodwyd bod perthynas Cymru â’r Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu (TEF) a’r Asiantaeth Sicrhau Ansawdd (QAA) dal yn ansicr, a pha mor bwysig yw bod Cymru’n cael ei chydnabod yn rhan o system y DU.
Cafodd y Bwrdd yr adroddiadau rheolaidd hyn
- Adroddiad misol Ymchwil ac Arloesedd
- Adroddiad misol y Dirprwy Is-Ganghellor Profiad Myfyrwyr a Safonau Academaidd
- Adroddiad misol Dirprwy Is-Ganghellor Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol
- Y newyddion diweddaraf am y System Arloesedd
- Adroddiad am weithgareddau Ymgysylltu
- Y wybodaeth ddiweddaraf am brosiectau Ystadau