Skip to main content

Newyddion Aelodau’r Bwrdd

Gweision sifil o bedair gwlad yn ymgynnull

23 Mai 2016

Ni fu erioed cymaint o angen am arloesedd a thystiolaeth ymatebol, o ansawdd uchel, i lywio’r broses o ddatblygu a mabwysiadu dulliau newydd o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus.

Felly, pleser o’r mwyaf oedd croesawu dirprwyaeth o rai o weision sifil mwyaf blaenllaw’r DU i’r Brifysgol yn ddiweddar, yn rhan o ddigwyddiad Polisïau’r Gwasanaeth Sifil o dan arweiniad Llywodraeth Cymru. Roeddent yn cynnwys Syr Derek Jones, Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru a chynfyfyriwr o Brifysgol Caerdydd, Chris Wormald, Ysgrifennydd Parhaol newydd yr Adran iechyd, Philip Rycroft – Ail Ysgrifennydd Parhaol, Pennaeth Grŵp Llywodraethu’r DU yn Swyddfa’r Cabinet, Denis McMahon – Ysgrifennydd Parhaol yr Adran Diwylliant, y Celfyddydau a Hamdden, a Peter May, Ysgrifennydd Parhaol yn yr Adran Datblygu Rhanbarthol (NCIS)

Drwy ddod â llunwyr polisïau o bob un o’r gwledydd datganoledig ynghyd, nod y digwyddiad oedd rhannu syniadau, datblygiadau arloesol ac arferion polisi er mwyn cyflwyno’r gwasanaethau cyhoeddus sydd eu hangen i allu mynd i’r afael â heriau cymdeithasol y dyfodol yn well.

Roedd yn gyfle gwych i’n gwesteion a nifer o’n hacademyddion, gan gynnwys sawl un sy’n gweithio ym maes polisïau cyhoeddus, ryngweithio â’r uwch-arweinwyr sy’n llunio, yn profi ac yn cyflwyno newidiadau mewn polisïau.

Roedd hefyd yn llwyfan rhagorol ar gyfer cael trafodaeth gyda nhw am ymagwedd unigryw y Brifysgol er mwyn canfod arloesedd economaidd, cyhoeddus a chymdeithasol o bwys. Rydym yn gwneud hyn drwy fuddsoddi mewn cyfleusterau fel Parc Ymchwil Gwyddorau Cymdeithasol cyntaf y byd, a’r Lab – y bartneriaeth newydd rhwng y Brifysgol a Nesta, sy’n arbenigo mewn arloesedd cymdeithasol.

Mae buddsoddiadau o’r fath yn rhoi cyfle gwych i Gaerdydd arwain y ffordd wrth gyflwyno ymchwil gwirioneddol ryngddisgyblaethol. Drwy wneud hyn, rydym yn troi ymchwil gwyddorau cymdeithasol o’r radd flaenaf yn atebion arloesol ac effeithiol i’r problemau dybryd a wynebir gan lunwyr polisïau.