
- Nodwyd yr uwch-benodiadau canlynol: bydd Dr Andrew Roberts (Pensaernïaeth) yn olynu’r Athro Bob Lark fel Deon Addysg a Myfyrwyr Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg; ac mae Dr Stuart Allen wedi’i gadarnhau’n Bennaeth Cyfrifiadureg a Gwybodeg.
- Nodwyd bod yr ymgynghoriad athrawol cyntaf wedi’i gynnal yng Ngholeg y Celfyddydau, y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol. Ar sail y drafodaeth a gynhaliwyd, mae’n bydd angen gwneud rhai newidiadau pellach i’r polisi yn ôl pob tebyg.
- Nodwyd bod amserlen yr arholiadau wedi bod ar-lein am y tro cyntaf, ac ni chafwyd unrhyw faterion er bod llawer iawn o bobl wedi’i defnyddio.
- Nodwyd bod Undeb y Myfyrwyr wedi pleidleisio i gymryd rhan yn Arolwg Blynyddol y Myfyrwyr y flwyddyn nesaf yn ôl yr arfer.
- Cafodd y Bwrdd bapur oedd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am faint o ddyfarniadau ymchwil sydd eu hangen i gyrraedd targedau incwm Ymchwil Ymlaen 2020. Cytunodd y Bwrdd i ddefnyddio’r ffigurau diwygiedig i greu lefelau dangosol o ddyfarniadau ymchwil ar lefel y Colegau a’r Ysgolion.
- Cafodd y Bwrdd ei hysbysu am gabinet newydd Llywodraeth Cymru.
- Cafodd y Bwrdd ddrafft o strategaeth Ymchwil ac Arloesedd GW4.
- Cafodd y Bwrdd bapur i’w hysbysu am Bapur Gwyn Addysg Uwch.
Cafodd y Bwrdd yr adroddiadau rheolaidd hyn
- Adroddiad misol y Prif Swyddog Gweithredol
- Adroddiad misol y Rhag Is-Ganghellor
- Adroddiad misol Dirprwy Is-Ganghellor Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd