Llwyddiant Archwiliad Gwyddoniaeth ac Arloesi GW4
22 Mawrth 2016Cafwyd newyddion da yn y gyllideb yr wythnos diwethaf ar gyfer y Brifysgol, pan gyhoeddodd y Canghellor George Osbourne fod consortiwm a arweinir gan GW4 o fusnesau a sefydliadau o bob cwr o Dde Ddwyrain Cymru a De Orllewin Lloegr wedi cael eu dewis i gymryd rhan yng ngham gyntaf Archwiliadau Gwyddoniaeth ac Arloesi (SIAs) yr Adran Busnes, Arloesi a Sgiliau (BIS).
Mae’r consortiwm yn cynnwys ystod eang o fusnesau o bob rhan o’r rhanbarth, pum Partneriaeth Menter Leol (LEPs), 13 awdurdod lleol, prifysgolion, sefydliadau a chatapyltiau ymchwil.
Caiff yr ‘Archwiliad Gwyddoniaeth ac Arloesi ar gyfer De-ddwyrain Cymru a De-orllewin Lloegr’ ei yrru gan y Gynghrair GW4. Mae wedi ei rannu’n bum prif thema sy’n cynrychioli’r ardaloedd cryfaf o ran ymchwil ac arloesi sydd eisoes yn bodoli ar draws y consortiwm.
Y rhain yw:
- Awyrofod a Pheirianneg Uwch
- Systemau Ynni Newydd
- Y Genhedlaeth Nesaf o Ficroelectroneg
- Llwyfan Arloesedd Byw Digidol
- Gwydnwch, yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd.
Yn ystod y misoedd nesaf, bydd BIS yn darparu’r consortiwm gyda chefnogaeth ddadansoddol er mwyn helpu i gynnal yr archwiliadau a darparu cyngor hanfodol ac annibynnol.
Creodd Jo Johnson, y Gweinidog dros Brifysgolion a Gwyddoniaeth, yr SIAs yn haf 2015 mewn ymgais i wella gallu’r DU i nodi a dilysu ble roedd rhagoriaeth ymchwil bresennol ac un sy’n tyfu yn cael ei chyplysu â chryfder arloesedd sy’n dod i’r amlwg. Nod y SIAs yw adeiladu sail dystiolaeth gadarn a grymus, gan ddangos cysylltiadau cryf rhwng sefydliadau ymchwil a busnesau, a all fod yn sail i benderfyniadau buddsoddi yn y dyfodol.
Byddwn yn diweddaru staff ar ddatblygiadau wrth i ni fynd ymhellach i mewn i’r broses.
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Rhagfyr 2022
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Medi 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014