Skip to main content

Newyddion yr Is-Ganghellor

E-bost yr Is-Ganghellor i’r holl staff – Rhagfyr 2015

22 Rhagfyr 2015

Annwyl gydweithiwr

Yn ôl yr arfer, bu’r Cyngor yn trafod sawl mater pwysig yng nghyfarfod olaf y flwyddyn. Roedd y rhain yn cynnwys ein rhaglen fuddsoddi a sut mae’n cael ei ariannu, yn ogystal â’n cynnydd mewn perthynas â’r dangosyddion perfformiad allweddol yn Y Ffordd Ymlaen. O ran y dangosyddion hyn, nododd y Cyngor bod yr incwm ymchwil ar gyfer 2014-15 wedi’i newid i ddangos cynnydd o dros 15%; roedd hyn o ganlyniad i ad-daliad treth na fydd yn digwydd eto yn y dyfodol. Fodd bynnag, o’i ychwanegu at ein cynnydd o 6% y llynedd, mae’n golygu ein bod wedi cyrraedd ein targed o 10% dros y ddwy flynedd diwethaf ar gyfartaledd. Yn ystod y flwyddyn, bydd angen i’n hincwm ymchwil ar hyn o bryd (tua £98m) godi i £114m. Mae hon yn dipyn o naid, ond byddwn yn derbyn grantiau mawr cyn bo hir, ac rydym yn cymryd camau i gyflymu’r broses o wario ar grantiau oherwydd bydd hyn i gyd yn helpu. Hwn hefyd oedd cyfarfod olaf Mr John Jeans, Cadeirydd y Cyngor, gan fod ei dymor tair blynedd yn dod i ben ar 31 Rhagfyr. Mae John wedi bod yn Gadeirydd rhagorol ac wedi arwain ein corff llywodraethu drwy gyfnod o newid sylweddol a chyflym mewn modd hynod fedrus a doeth. Mae’r Brifysgol wedi symud yn ei blaen yn aruthrol ers i John ddechrau ei swydd yn 2012, ac rydym yn hynod ddiolchgar iddo. Bydd John yn cael ei olynu gan yr Athro Stuart Palmer, sy’n dechrau ei gyfnod o dair blynedd fel Cadeirydd ar 1 Ionawr 2016. Mae Stuart, sydd wedi bod yn aelod o’r Cyngor ers dwy flynedd, yn ffisegydd nodedig a bu’n Ddirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Warwick am ddeng mlynedd. Mae ganddo brofiad helaeth ym maes addysg uwch, ac rwyf yn edrych ymlaen yn fawr at weithio gydag ef ar adeg pan mae cryn ansicrwydd yn y sector.

Yn fy ebost diwethaf, soniais am y gwahanol adolygiadau a’r ymgynghoriadau sy’n cael eu cynnal yng Nghymru a Lloegr. Ers hynny, rydym wedi cyhoeddi aelodaeth a chylch gwaith y grŵp sy’n adolygu’r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF). Mae’r wybodaeth am hyn ar gael yma. Yr Athro Nicholas Stern fydd cadeirydd y grŵp, a disgwylir iddynt gyflwyno adroddiad yn haf 2016. Mae is-gangellorion Aston, Caergrawnt a Glasgow yn rhan o’r grŵp, sy’n cynnwys pedair menyw a chwe dyn, ac mae dau ohonynt yn aelodau o Dŷ’r Arglwyddi. Ceir cynrychiolwyr o feysydd y dyniaethau a’r gwyddorau cymdeithasol, yn ogystal â gwyddoniaeth a pheirianneg. Nid oes neb o Gymru ynddo, ond mae Is-Ganghellor Caergrawnt, yr Athro Borysiewicz, yn deall materion Cymreig i’r dim, felly rydw i’n siŵr na chawn ein hanghofio. Bydd canlyniad yr adolygiad yn hollbwysig i Gaerdydd a phob prifysgol ymchwil-ddwys arall. Rwy’n siŵr y byddem yn croesawu gostyngiad gwirioneddol yn y fiwrocratiaeth a gynhyrchir gan REF, ochr yn ochr â chynnal manteision adolygiadau gan gymheiriaid. Wrth gwrs, ni allwn ddarogan beth fydd y canlyniad felly byddwn yn parhau i gynllunio ar sail y wybodaeth orau sydd ar gael yn y cyfamser.

Cawsom newyddion llai calonogol yn gynharach y mis hwn pan gyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei chyllideb ddrafft ar gyfer 2016-17. Ar yr olwg gyntaf, gwelir y bydd 32% yn llai o arian ar gael ar gyfer Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (HEFCW) ar gyfer y flwyddyn honno, ond gallai fod cymaint â 40% oherwydd y gwahaniaethau mewn amser rhwng blynyddoedd ariannol. Yn amlwg, byddai gostyngiad sydyn a sylweddol o’r fath yn peri goblygiadau difrifol i’r holl sector yng Nghymru. Yn ôl pob golwg, nid yw’r cyhoeddiad yn rhan o unrhyw bolisi na chynllun; mae’n ymddangos fel ymateb i’r cyfyngiadau a wynebir o ran ariannu addysg uwch a’r system cefnogi myfyrwyr sydd gennym yma yng Nghymru. Gallai’r goblygiadau fod yn ddifrifol i bob prifysgol yng Nghymru, gan gynnwys Caerdydd, ac nid yw’n glir a ydy’r effeithiau posibl wedi’u hystyried yn llawn. Drwy Brifysgolion Cymru, byddwn yn amlwg yn ceisio gweld a oes modd gwneud unrhyw newidiadau cyn cau pen y mwdwl ar y gyllideb ym mis Mawrth. Byddwn yn ceisio gwneud yn siŵr bod Aelodau’r Cynulliad yn deall y byddai prifysgolion Cymru o dan gryn anfantais; mewn cyferbyniad â Chymru, bydd gostyngiad o 3% i brifysgolion yr Alban, a bydd premiwm y pynciau drud ac arian ymchwil yn cael ei ddiogelu mewn gwirionedd yn Lloegr. Gorau po fwyaf o Aelodau’r Cynulliad sy’n ymwybodol o’r broblem er mwyn i ni allu dod o hyd i ateb adeiladol. Rwy’n siŵr y bydd eu hetholwyr mewn trefi prifysgolion a thu hwnt yn cysylltu â nhw ynghylch hyn.

Nid wyf am orffen neges cyn y Nadolig ar nodyn trist, felly beth am i ni gofio bod 2015 wedi bod yn flwyddyn wych i’r Brifysgol. Rydym wedi adeiladu ar ein llwyddiant arbennig yn y REF drwy ennill nifer o grantiau sylweddol a mawreddog yn ogystal â Gwobr Pen-blwydd y Frenhines unwaith eto. Mae Canolfan Ymchwil Delweddu’r Ymennydd Prifysgol Caerdydd (CUBRIC) II bron wedi’i chwblhau, ac mae’r cynlluniau ar gyfer y ddau adeilad nesaf ar y Campws Arloesedd ar Heol Maendy yn dod yn eu blaen yn dda. Rydym wedi gwneud cynnydd rhagorol yn Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr, ac aeth y broses recriwtio yn dda iawn eleni (o gofio nad aeth pethau cystal i bawb ar draws y sector). Rydym wedi penodi tîm dylunio ar gyfer Canolfan y Myfyrwyr yn ogystal â dechrau adnewyddu ystafelloedd addysgu ym mhob campws. Rwyf yn sylweddoli’n llawn mai gwaith caled, ymroddiad a gallu ein cydweithwyr ym mhob rhan o’r Brifysgol sydd i’w cyfrif am bob un o’r llwyddiannau hyn. Rydym yn gwerthfawrogi eich ymdrechion yn fawr. Gan gadw mewn cof bod rhai o’n cydweithwyr yn cynnal y Brifysgol yn ystod y gwyliau, hoffwn ddymuno Nadolig a Blwyddyn Newydd hapus, heddychlon a thawel i bawb.

Cofion gorau

Colin Riordan
Is-Ganghellor