
- Trafodwyd cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2016/17. Nodwyd y byddai’r Brifysgol yn cyflwyno ymateb gan dynnu sylw at yr effaith y byddai toriadau o’r fath yn ei chael.
- Nodwyd bod yr Adran Busnes, Arloesedd a Sgiliau wedi gofyn yn ddiweddar i Ddatganiadau o Ddiddordeb gael eu cyflwyno ar gyfer ei Harchwiliad Gwyddoniaeth ac Arloesedd. Cytunwyd y byddai Caerdydd yn cyfrannu at Ddatganiadau o Ddiddordeb Cymru Gyfan a GW4.
- Cafodd y Bwrdd Gweithredol bapur yn amlinellu Cynllun Gadael Addysg newydd a fyddai’n caniatáu i staff wneud cais am secondiad i’r Ganolfan Arloesedd Addysg. Cytunodd y Bwrdd i gefnogi’r cynllun ar gyfer 2016/17.
- Cafodd y Bwrdd achos busnes gan Ddirprwy Is-Ganghellor a Phennaeth Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol, i gymeradwyo rhentu lle ar brydles i ehangu Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth. Mae lle i’w rentu ar brydles wedi’i nodi ym Mhlas y Parc ers tair blynedd. Mae’r Bwrdd Gweithredol wedi cymeradwyo’r achos busnes.
- Cafodd y Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am y cydweithio â Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, a chymeradwyodd y trefniadau presennol ac arfaethedig.
Cafodd y Bwrdd yr adroddiadau rheolaidd hyn:
- Adroddiad diogelwch, iechyd a’r amgylchedd bob chwe mis.
- Diweddariad chwarterol am Sefydliadau Ymchwil y Brifysgol.
- Y wybodaeth ddiweddaraf am brosiect Ystadau.
- Adroddiad Misol a Blaengynllun y Cyfarwyddwr Cyfathrebu a Marchnata.
- Adroddiad am weithgareddau Rhyngwladol ac Ewropeaidd.