Skip to main content

Y diweddaraf am Gyfarfodau

Bwrdd Gweithredol y Brifysgol, 7 Rhagfyr 2015

7 Rhagfyr 2015
  • Nodwyd bod Ms Dowden wedi mynd i gyfarfod Arolwg Uniforum. Dyma’r prosiect meincnodi ar gyfer Gwasanaethau Proffesiynol ar draws Grŵp Russell, a bydd yn dangos i ni faint mae ein Gwasanaethau Proffesiynol yn ei gostio, a’r perfformiad mewn cysylltiad â’r gost.
  • Cafwyd rhagor o drafodaeth ynglŷn â’r eitem am Brentisiaethau Gradd o gyfarfod blaenorol y Bwrdd. Nodwyd y byddai ffi prentisiaeth yn cael ei godi ar gyflogwyr mawr, gan gynnwys y Brifysgol, i ariannu prentisiaethau o 2017. Byddai rhwydd hynt i unrhyw gwmni gyflwyno cynnig am brentisiaeth, p’un a ydynt wedi talu’r ffi ai peidio. Y bwriad yw creu dros dair miliwn o brentisiaethau erbyn 2020, gyda 300,000 ar gyfer y flwyddyn gyntaf.  Roedd angen eglurder o hyd ynglŷn â sut byddai’r prentisiaethau’n gweithredu yng Nghymru.
  • Cafodd y Bwrdd ymateb drafft i Bapur Gwyrdd AU er mwyn rhoi mewnbwn amdano. Bydd yr ymateb terfynol nawr yn cael ei ddrafftio cyn ei gyflwyno erbyn y dyddiad cau, sef 15 Ionawr 2016.

Cafodd y Bwrdd yr adroddiadau rheolaidd hyn:

  • Adroddiad Datblygu a Chysylltiadau Cynfyfyrwyr
  • Adroddiad Misol y Dirprwy Is-Ganghellor Profiad Myfyrwyr a Safonau Academaidd.
  • Adroddiad Craffu ar Bortffolio.