Skip to main content

Y diweddaraf am Gyfarfodau

Bwrdd Gweithredol y Brifysgol, 9 Tachwedd 2015

9 Tachwedd 2015
  • Derbyniodd y Bwrdd Gweithredol bapur drafft ar Ddiffinio Uchelgais Ymchwil Academaidd Prifysgol Caerdydd. Cytunwyd y byddai rhai pwyntiau’n cael eu hegluro yn y papur cyn iddo gael ei gyflwyno gerbron y Senedd i’w drafod yn y cyfarfod ar 18 Tachwedd.
  • Nodwyd bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi cytuno i gyd-ariannu swyddfa ymchwil ar y cyd gyda’r Brifysgol.
  • Nodwyd y Papur Gwyrdd Addysg Uwch a gyhoeddwyd yn ddiweddar, ‘Fulfilling our Potential: Teaching Excellence, Social Mobility and Student Choice’, a’r dyddiad cau ar gyfer ymateb, sef 15 Ionawr 2016. Cytunwyd y dylid cynnwys y Papur Gwyrdd ar agendâu’r Senedd, y Pwyllgor Polisi ac Adnoddau a’r Cyngor, i’w drafod.  Er bod llawer o’r cynigion yn ymwneud yn benodol â Lloegr, cytunwyd y dylai’r Brifysgol ymateb i’r ymgynghoriad, a dylai’r Athro Thomas a’r Athro Price arwain ar yr agweddau sy’n ymwneud â gwaith ymchwil ac addysgu, gyda mewnbwn gan yr Adrannau Cynllunio a Chyfathrebu.
  • Nododd yr Athro de Leeuw ei thaith ddiweddar i Namibia i ymweld â Phrosiect Phoenix.
  • Fe wnaeth yr Is-Ganghellor grynhoi rhai o’r materion a drafodwyd yng nghyfarfod diweddar y Penaethiaid Ysgol.
  • Derbyniodd y Bwrdd Gweithredol y wybodaeth ddiweddaraf ar y cynnydd tuag at ddangosyddion perfformiad allweddol Y Ffordd Ymlaen, cyn ei rhoi i’r Pwyllgor Polisi ac Adnoddau a’r Cyngor.
  • Derbyniodd y Bwrdd y gofrestr risg lefel uchel, cyn ei rhoi i’r Pwyllgor Polisi ac Adnoddau a’r Cyngor.
  • Derbyniodd y Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am y Rhaglen Buddsoddiad Cyfalaf, gan adolygu’r rhestr flaenoriaeth cyn iddi gael ei chyflwyno gerbron y Pwyllgor Polisi ac Adnoddau a’r Cyngor.
  • Derbyniodd y Bwrdd sawl achos busnes cyfalaf:
    • Cylch Oes Data Rhaglenni a Myfyrwyr. Mae’r prosiect yn rhan o’r Portffolio Addysg gwerth £16M.  Byddai’r buddsoddiad yn gwneud gwelliannau i ddata systemau a phrofiad y defnyddiwr dros gyfnod o dair blynedd. Cymeradwyodd y Bwrdd Gweithredol yr achos cyn ei gyflwyno gerbron y Pwyllgor Polisi ac Adnoddau.
    • Cam 2 Rhaglen Adnewyddu Teleffoni’r Adran Rhwydwaith a Thelathrebu. Cytunodd y Bwrdd Gweithredol i gymeradwyo’r argymhelliad i symud gwasanaethau teleffoni’r Brifysgol yn llawn i VOIP, a rhyddhau arian ar gyfer y prosiect yn ystod 2015/16. Bydd yr achos yn cael ei gyflwyno gerbron y Pwyllgor Polisi ac Adnoddau a’r Cyngor, i’w nodi.
    • Y Rhaglen Trawsnewid Llyfrgelloedd. Cytunodd y Bwrdd Gweithredol i ryddhau arian i gynnwys datblygu’r Gwasanaethau Llyfrgelloedd, gan ddylunio a chwblhau’r achos busnes erbyn mis Ionawr 2017.

Cafodd y Bwrdd yr adroddiadau rheolaidd hyn:

  • Adroddiad Misol Dirprwy Is-Ganghellor Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg.
  • Adroddiad Misol a Blaengynllun y Cyfarwyddwr Cyfathrebu a Marchnata.
  • Adroddiad am weithgareddau Rhyngwladol ac Ewropeaidd.