
- Derbyniodd y Bwrdd Gweithredol ymatebion cychwynnol Grŵp Russell a UUK i’r Papur Gwyrdd Addysg Uwch ‘Fulfilling our Potential: Teaching Excellence, Social Mobility and Student Choice’. Trafodwyd y meysydd y dylai Prifysgol Caerdydd ganolbwyntio arnynt yn ei hymateb. Cytunwyd y byddai’r Adran Cynllunio yn cysylltu â’r Dirprwy Is-Ganghellor Profiad Myfyrwyr a Safonau Academaidd, a’r Dirprwy Is-Ganghellor Ymchwil, Arloesedd ac Ymgysylltu er mwyn drafftio’r ymateb. Bydd angen dychwelyd yr ymateb drafft i’r Bwrdd Gweithredol cyn y Nadolig i wneud yn siŵr y gall y Bwrdd drafod yr ymateb, a’i fod yn barod erbyn y dyddiad cau ar 15 Ionawr 2016.
- Pan fydd y Papur Drafft ar gyfer y Senedd: Diffinio Uchelgais Ymchwil Academaidd Prifysgol Caerdydd, wedi’i dderbyn, cytunwyd y bydd y Tîm Cyfathrebu yn rhoi cyhoeddusrwydd i’r papur, gan ddilyn gyda chrynodeb o’r cofnodion ac unrhyw ganlyniadau o gyfarfod yr uwch-staff ar 7 Rhagfyr.
- Nodwyd y cynhelir lansiad y Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd yn San Steffan, a Darlith Hadyn Ellis, ar 18 Tachwedd 2015.
- Derbyniodd y Bwrdd Gweithredol yr Adroddiad Ariannol ar gyfer 2014/15. Nodwyd bod yr Incwm Ymchwil bellach yn rhagori ar y dangosydd perfformiad allweddol ac wedi tyfu 15.2%.
Cafodd y Bwrdd yr adroddiadau rheolaidd hyn:
- Y wybodaeth ddiweddaraf am brosiectau Ystadau.