E-bost yr Is-Ganghellor i’r holl staff – Hydref 2015
29 Hydref 2015Annwyl gydweithiwr
Gadewch i mi ddechrau gyda mater sydd wedi cael sylw byd-eang yn y cyfryngau dros y wythnosau diwethaf: ein gwahoddiad i Germaine Greer draddodi darlith flynyddol Hadyn Ellis ar bwnc Menywod a Phŵer: Gwersi’r 20fed Ganrif. Ar ôl gwneud y cyhoeddiad, roedd Swyddog y Menywod, Undeb y Myfyrwyr, yn gyflym ei hymateb: sefydlwyd deiseb yn galw am dynnu’r gwahoddiad yn ôl, gan fod yr Athro Greer wedi mynegi’r farn (ymhlith pethau eraill sy’n ymwneud â materion trawsrywedd) nad oes modd i rywun a aned yn ddyn yn fiolegol fod yn fenyw drwy gael llawdriniaeth.
Er bod gennyf barch mawr at yr Athro Greer a’i chyflawniadau academaidd, hoffwn ddweud nad wyf, yn bersonol, yn cytuno â’r farn honno. Credaf fod gan bob un yr hawl i benderfynu ei hunaniaeth ei hun – gan gynnwys ei hunaniaeth o ran rhywedd – a dylai pobl eraill barchu’r dewisiadau rydym yn eu gwneud ynghylch materion o’r fath. Nid yw hunaniaeth o ran rhywedd yn fater corfforol yn unig, ac yn nid yw o reidrwydd yn seiliedig ar nodweddion biolegol. Nid myfi yw’r unig un sydd o’r farn honno: mae gan Brifysgol Caerdydd gymuned LGBT+ balch sy’n ffynnu, ac mae’n cefnogi unrhyw fyfyriwr neu aelod o staff trawsrywiol.
Serch hynny, nid oes unrhyw achos dros dynnu gwahoddiad yn ôl, a estynnwyd i siaradwr academaidd nodedig a rhagorol, ar y sail bod y safbwyntiau y mae wedi eu lleisio’n gyhoeddus ar faterion na fyddant yn rhan o bwnc y ddarlith arfaethedig, yn sarhaus i bobl eraill. Y peth gorau i’w wneud yw manteisio ar y cyfle i ymuno yn y ddadl gyhoeddus, gan ddadlau dros yr ochr arall.
Yn olaf, nid oes unrhyw sail i’r ddadl bod gwahodd yr Athro Greer i siarad yn un o ddigwyddiadau Prifysgol Caerdydd yn golygu ein bod yn cefnogi pob barn sydd ganddi am bob mater. Mae gan y rheini sydd wedi arwyddo deisebau ar ddwy ochr y ddadl hon yr hawl i’w barn. Mae gen i hawl i fy marn innau, ac mae gan yr Athro Greer yr hawl i’w barn hi. Mae’n well gen i weld dadleuon yn cael eu cynnal â chwrteisi a pharch. Cyhyd ag y bod pawb dan sylw yn aros o fewn ffiniau’r gyfraith, dylem fod yn barod i wrando ar ein gilydd heb i hynny olygu ein bod o reidrwydd yn cytuno neu’n cefnogi’r hyn a ddywedir. Dyna yw natur dadl, ac mae’n un o egwyddorion sylfaenol bywyd yn y brifysgol.
Wrth droi at faterion eraill, dywedais yn fy ebost diwethaf y byddaf yn sôn ychydig mwy am y broses o ddatblygu strategaeth dros y flwyddyn nesaf. Byddwch yn cofio fod Y Ffordd Ymlaen yn strategaeth ar gyfer 2012-2017. Pan gyrhaeddais gyntaf yn 2012, roeddwn yn ystyried bod angen brys am ddogfen strategol gryno i ddangos cyfeiriad y Brifysgol yn glir. Felly, roedd rhaid ei llunio, ei thrafod a’i chytuno yn gyflym. Mae cyfle gennym bellach i ystyried y cyfnod ar ôl 2017 yn fwy hamddenol. I’r perwyl hwnnw, yn gynharach y mis hwn, neilltuwyd y Gynhadledd Uwch-Staff flynyddol i ystyried, yn fras iawn, y materion allweddol a allai wynebu’r Brifysgol yn y tymor canolig a’r tymor hir. Nid oeddem yn trafod strategaeth fel y cyfryw, ond yn hytrach yn ystyried rhai o’r egwyddorion a ddylai fod yn sail iddi. Gwnaethom ystyried manteision ac anfanteision Y Ffordd Ymlaen ar ei gwedd bresennol, ac ystyried ai dull gweithredu cyffredinol yw’r un cywir. Gwnaethom hefyd ystyried dangosyddion perfformiad allweddol; pa mor ddefnyddiol ydynt a’r ffordd orau o’u llunio. Trafodwyd y gwerthoedd sylfaenol, ac a allai’r strategaeth ei hun gael ei harwain gan werthoedd. Yn olaf, trafodwyd y ffordd orau o ymgynghori’n eang yn ystod y broses o ddatblygu’r strategaeth.
Wythnos neu ddwy yn ddiweddarach, cynhaliwyd digwyddiad cwrdd-i-ffwrdd ar gyfer y Cyngor. Yn ystod y digwyddiad, bu corff llywodraethu’r Brifysgol yn ystyried rhai o’r cwestiynau hynny, a chytunodd ei bod yn gwneud synnwyr neilltuo’r flwyddyn academaidd sy’n weddill i dynnu cynifer o aelodau’r Brifysgol a rhanddeiliaid eraill ag sy’n ymarferol bosibl, i drafodaeth a fydd yn helpu i lywio dogfen strategol newydd ar gyfer y cyfnod ar ôl 2017. Bydd sawl ffordd o gyfrannu, ond un o’r ffyrdd pwysicaf fydd drwy gyfres o chwech neu wyth digwyddiad y byddwn yn eu cynnal yn ystod y flwyddyn hon. Bydd croestoriad o staff, myfyrwyr, aelodau’r Cyngor a rhanddeiliaid yn gallu cymryd rhan mewn trafodaethau a fydd yn caniatáu i ni fanteisio ar amrywiaeth eang o safbwyntiau, gan arwain at amrywiaeth o syniadau. Ni fydd dim un o’r sesiynau hyn yn llunio dogfen strategol mewn gwirionedd: y bwriad yw cynnal trafodaethau helaeth er mwyn gallu ystyried amrywiaeth o opsiynau. Yn y pen draw, byddaf yn goruchwylio’r broses o ysgrifennu dogfen derfynol, y bydd angen ei thrafod yn y Senedd ac y bydd angen i’r Cyngor gytuno arni. Penllanw’r broses fydd dogfen strategol newydd tuag at ddiwedd 2016, i’w lansio yn 2017. Bydd rhagor o wybodaeth am y sesiynau arfaethedig a ffyrdd eraill y gallwch gymryd rhan ar gael maes o law.
Yn gynharach y mis hwn, fe’m trawyd gan ddogfen a gyrhaeddodd fy nesg gan felin-drafod Gymraeg o’r enw Gorwel, a oedd yn dadlau nad yw Cymru fel cenedl ‘yn economaidd anobeithiol’. Gyda mwy o uchelgais a hunanhyder, yn ogystal â syniadau newydd a chydweithio, gallai Cymru wella ei sefyllfa a’i phroffil yn ddramatig. Cefais fy atgoffa o bethau eithaf tebyg a ddywedwyd wrthyf pan ddeuthum i’r Brifysgol i ddechrau. Roedd pobl yn dweud ein bod yn cuddio y tu ôl i bobl eraill; mae angen i ni fod yn fwy uchelgeisiol a chanu ein clodydd ein hunain. Credaf ein bod bellach yn llawer gwell am gyfleu negeseuon cadarnhaol i weddill y byd. Yn yr adroddiad a lansiwyd gennym yn ddiweddar, dangoswyd bod Prifysgol Caerdydd yn cynhyrchu £6 ar gyfer economi Cymru am bob £1 mae’n ei gwario. Ond arhosodd un elfen o’r feddylfryd hon yn fy nghof. Dywedwyd wrthyf ein bod yn anweledig yma yng Nghaerdydd. Mae gan brifysgolion eraill arwyddion enfawr yn hyrwyddo eu presenoldeb, ond nid oes llawer i roi gwybod i bobl bod Prifysgol Caerdydd yn bodoli yng Nghaerdydd. Rwy’n falch o gael dweud bod hynny’n newid. Efallai eich bod eisoes wedi sylwi ar arwyddion mawr, gweladwy iawn mewn mannau amlwg yn ein hadeiladau yn Cathays. Maes o law, wrth i’r rhaglen arwyddion gael ei chwblhau’n raddol, bydd yn amhosibl anwybyddu’r ffaith bod Prifysgol Caerdydd yn bresenoldeb enfawr yng Nghaerdydd. Mae’n bwysig ein bod yn datgan ein cyflawniadau wrth y byd, ac rydym yn gwneud hyn yn rheolaidd. Ond, mae bod yn bresenoldeb gweladwy yn ein dinas ein hunain yn un mor bwysig, yn fy marn i.
Gyda dymuniadau gorau
Colin Riordan
Is-Ganghellor
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Rhagfyr 2022
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Medi 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014