
- Derbyniodd y Bwrdd Gweithredol bapur ar Faint a Siâp y Brifysgol, a chafwyd trafodaeth ar ddulliau amrywiol o weithredu. Cytunwyd y dylid ymgymryd â gwaith pellach, a’i drafod eto yng nghyfarfod y Bwrdd Gweithredol.
- Derbyniodd y Bwrdd adroddiad ar Athena SWAN. Nodwyd nad oedd peidio â chael statws Athena SWAN Arian yn peri risg i’r Brifysgol na’i Hysgolion ar hyn o bryd, o ran colli arian ymchwil neu beidio â bod yn gymwys i wneud cais am arian o’r fath, gan fod hyn wedi bod yn berthnasol i ganolfannau NIHR ac unedau nad oedd Cymru’n gymwys i wneud cais ar eu cyfer.
Cafodd y Bwrdd yr adroddiadau rheolaidd hyn:
- Adroddiad misol y Rhag Is-Ganghellor.
- Y wybodaeth diweddaraf am y System Arloesi.
- Adroddiad ar Weithgareddau Ymgysylltu.
- Adroddiad misol Ymchwil ac Arloesi.
- Adroddiad am weithgareddau Rhyngwladol ac Ewropeaidd.