Skip to main content

Y diweddaraf am Gyfarfodau

Bwrdd Gweithredol y Brifysgol, 14 Hydref 2015

14 Hydref 2015
  • Derbyniodd y Bwrdd Gweithredol bapur ar wallau arholiadau. Roedd yn nodi’r cynnydd a wnaed, ac yn cymeradwyo’r adroddiad ar gyfer ASQC a’r Senedd.
  • Mae’r Bwrdd wedi derbyn ac yn cytuno ar bapur sy’n amlinellu’r broses a’r fframwaith newydd ar gyfer adrodd am Sefydliadau Ymchwil y Brifysgol.
  • Mae’r Bwrdd wedi derbyn a chymeradwyo adroddiad ar weithgarwch Horizon 2020 ac Erasmus+ y Brifysgol i bwyllgor Menter a Busnes Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Cafodd y Bwrdd yr adroddiadau rheolaidd hyn:

  • Adroddiad Misol Dirprwy Is-Ganghellor Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg. Nododd y bydd y Coleg yn dathlu ei lwyddiant yng ngwobrau ymchwil 2014/15 mewn digwyddiad yn Oriel VJ ym mis Hydref. Bydd y digwyddiad hwn yn dathlu’r ffaith bod y Coleg £9.5M uwchben ei darged gwobrau ar gyfer y flwyddyn, gyda 126% o’n targed wedi’i gyflawni. Bydd y Coleg hefyd yn arddangos gwaith y gwasanaethau proffesiynol i gefnogi hyn, gyda chyfleoedd i academyddion gyfarfod â’r timau a darganfod yr ystod o weithgareddau cefnogi sydd ar gael.
  • Adroddiad Misol a Blaengynllun y Cyfarwyddwr Cyfathrebu a Marchnata. Roedd yr adroddiad yn rhoi’r newyddion diweddaraf am y cysylltiadau cyfredol â’r cyfryngau a’r ymgyrchoedd yn y cyfryngau. Roedd yr adroddiad yn rhoi’r newyddion diweddaraf am gyfathrebu mewnol a digidol hefyd.