Skip to main content

Newyddion Aelodau’r Bwrdd

Gwneud argraff ar y Maes

3 Awst 2015

Mae grŵp o staff academaidd a gwasanaethau proffesiynol ar hyn o bryd yn cymryd rhan mewn ystod eang o sgyrsiau, trafodaethau a gweithgareddau yn yr Eisteddfod Genedlaethol, yn dilyn misoedd o baratoi wedi ei arwain gan Sara Moseley gyda chefnogaeth gan y Tîm Ymgysylltu a chydweithwyr ar draws y Brifysgol.

Mae’r digwyddiad diwylliannol mawr hwn – sy’n cymryd lle ym Meifod ym Maldwyn a’r Gororau o

1-8 Awst – yn un o uchafbwyntiau’r calendr Cymreig a gallaf eich sicrhau y bu hyd yn oed mwy o ffocws nag arfer ar sicrhau ein bod yn gwneud effaith go iawn ar y Maes.

Rydym yn gwneud llawer o waith o fewn y Brifysgol i gefnogi’r iaith Gymraeg felly rwyf wrth fy modd bod ein cynllun newydd Cymraeg i Bawb yn cael ei lansio yn yr Eisteddfod heddiw.  Bydd yn galluogi myfyrwyr i ddysgu’r iaith yn rhad ac am ddim ochr yn ochr â’u hastudiaethau rheolaidd.

Os ydych chi’n gweithio yn yr ŵyl, gobeithio y byddwch yn cael amser gwych, ac os ydych yn ymweld, mwynhewch y nifer o weithgareddau sy’n digwydd yn ein pafiliwn ac mewn mannau eraill o gwmpas y Maes.

Darllenwch fwy am ein cefnogaeth.