Skip to main content

Newyddion Aelodau’r Bwrdd

#HE2030 – beth fydd plant tair blwydd oed heddiw yn ei ddisgwyl o’u profiad prifysgol?

2 Gorffennaf 2015

Mwynheais yn fawr gadeirio’r drafodaeth panel fywiog a ddaeth â’n Digwyddiad Portffolio Addysg, a fynychwyd yn dda iawn, i ben heddiw.

Y pwnc dan sylw oedd “Sut bydd dysgu ac addysgu yn edrych yn ein sector yn 2030?” ac roedd y drafodaeth yn eang ei chwmpas. Beth fydd plant bach heddiw yn ei ddisgwyl o’u profiad prifysgol? Sut gallai technolegau newydd effeithio ar y ffordd yr ydym yn addysgu a sut mae myfyrwyr yn dysgu? A sut y gallem gael effaith ar sut mae technolegau addysgol yn esblygu? Beth yw dyfodol gradd llawn amser ar y campws? A fydd y rhesymau pam fod myfyrwyr yn mynychu prifysgol wedi newid erbyn 2030? Pa mor bwysig fydd graddau yn seiliedig ar ddisgyblaeth? A beth allai hynny olygu ar gyfer asesu? Mae cymaint i gnoi cil arno…

Gallwch weld y sgwrs o’r digwyddiad ar ffrwd Twitter #HE2030 , a hefyd dwedwch wrthym beth yw eich barn.