
Rhoddodd yr Athro Price y wybodaeth ddiweddaraf i’r Bwrdd am y diwrnod Dysgu ac Addysgu diweddar lle cafwyd cryn ymgysylltu academaidd. Nodwyd y gellir parhau i gyfrannu at y drafodaeth drwy Twitter #HE2030.
Dywedodd yr Athro de Leeuw ei bod wedi ymweld ag Universidad de la Habana yng Nghiwba yn ddiweddar. Maent yn cynnal rhaglenni i israddedigion ac efallai bod cyfle i’w hystyried mewn cysylltiad â rhaglenni symudedd allanol Caerdydd.
Cafodd y Bwrdd ddau achos busnes ynglŷn â’r posibilrwydd o ehangu Ysgol yn Adeilad Bute wedi i’r Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol symud allan. Cytunwyd y dylid cyflwyno’r ddau achos i’r Grŵp Craffu ar Achosion Busnes i’w hystyried ymhellach.
Cafodd y Bwrdd bapur am ddatblygu Sefydliad Ymchwil newydd y Brifysgol mewn Dyfroedd Cynaliadwy. Cytunodd y Bwrdd i ddatblygu’r sefydliad newydd a gaiff ei lansio ar 1 Awst 2015 ynghyd â sefydliadau ymchwil newydd eraill.
Cafodd y rhagolygon blynyddol yn erbyn dulliau mesur strategaeth gorfforaethol Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru eu derbyn a’u cymeradwyo er mwyn eu cyflwyno i’r Cyngor.
Cafodd y Bwrdd ei hysbysu am araith ddiweddar Jo Johnson AS, Gweinidog Prifysgolion a Gwyddoniaeth. Cytunwyd y caiff papur ei gyflwyno i’r Bwrdd ar ôl cael manylion y Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu (TEF) yn Lloegr. Disgwylir i’r Fframwaith gael ei gyhoeddi yn yr hydref.
Cafodd y Bwrdd yr adroddiadau rheolaidd hyn:
Adroddiad Misol a Blaen-Gynllun y Cyfarwyddwr Cyfathrebu a Marchnata. Rhoes yr adroddiad y newyddion diweddaraf am y cysylltiadau cyfredol â’r cyfryngau a’r ymgyrchoedd yn y cyfryngau. Roedd yn cynnwys manylion y paratoadau a’r fformat ar gyfer seremonïau graddio eleni. Roedd hefyd yn cynnwys manylion am brif gyflawniadau’r tîm Recriwtio Myfyrwyr a Marchnata.
Adroddiad am Weithgareddau Ymgysylltu. Rhoes yr adroddiad y wybodaeth ddiweddaraf am bob un o’r prif brosiectau ymgysylltu ac am y gweithgareddau ymgysylltu â llywodraethau Cymru a’r DU. Nododd hefyd y digwyddiadau a’r cynlluniau sydd ar y gweill, gan gynnwys y rhai a gynhelir yr Eisteddfod. Bydd y rhain yn cynnwys trafodaeth am ddyfodol y cyfryngau yng Nghymru, lansio ‘Cymraeg i Bawb’ a thrafodaeth am Arloesedd yn y Gwasanaethau Cyhoeddus.
Adroddiad am Weithgareddau Rhyngwladol. Rhoes yr adroddiad yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am weithgareddau gyda KU Leuven, Tsieina, Cuba, yn ogystal â Chronfa Ewropeaidd ar gyfer Buddsoddiadau Strwythurol a Horizon 2020.