Skip to main content

Newyddion Aelodau’r Bwrdd

Noson Dathlu Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

9 Mehefin 2015

Roeddwn wrth fy modd yn mynychu’r dathliad Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd heno. Roedd y digwyddiad yn dathlu llwyddiannau anhygoel cynifer o’n myfyrwyr sydd wedi cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau cyd-gwricwlaidd eleni, gan gynnwys gweithredu fel Mentoriaid Myfyrwyr, gan gymryd rhan mewn heriau Menter a chwblhau Gwobr Caerdydd. Gwesteiwr y noson oedd Llywydd Undeb y Myfyrwyr, Elliot Howells, yn Y Plas. Fel bob amser, mae’n bleser gweld yr ymroddiad a’r ymrwymiad a ddangoswyd gan ein myfyrwyr i weithgareddau sy’n dod â chymorth ac yn rhoi grym i eraill.

Mae’r rhaglenni a arddangoswyd heno yn enghreifftiau o ymrwymiad strategol y Brifysgol i gynhyrchu graddedigion sy’n gymesur, yn hyblyg, symudol ac yn hynod gyflogadwy:

  • Mae’r Rhaglen Mentora Myfyrwyr yn gweld myfyrwyr cyfredol yn darparu cymorth gwerthfawr ar gyfer myfyrwyr y flwyddyn gyntaf drwy’r cyfnod pontio o’r ysgol i’r brifysgol. Yn ystod 2014/15 cefnogodd dros 200 o fentoriaid dros 1,800 o fentoreion, gan wneud gwahaniaeth gwirioneddol ac ymarferol i fywydau myfyrwyr newydd.
  • Mae’r Tîm Menter yn cefnogi myfyrwyr a graddedigion i ddechrau mentrau newydd ac i ddangos eu gallu i achub ar y cyfle a chynnig syniadau, pa bynnag lwybr gyrfa maent yn ei ddewis. Cymerodd dros 1,300 o fyfyrwyr ran mewn digwyddiadau a drefnwyd gan y tîm eleni ochr yn ochr â’u hastudiaethau.
  • Mae Gwobr Caerdydd yn rhaglen drwyadl sy’n gofyn am hunanreolaeth, ysgogiad a phenderfyniad i jyglo gwaith academaidd yn erbyn ei ofynion. Eleni, cwblhaodd 215 o fyfyrwyr y rhaglen, gan elwa ar y cyfleoedd y mae’n ei darparu i gyfarfod â, a dysgu oddi wrth gyflogwyr a thrwy hynny i baratoi ar gyfer cystadlu’n llwyddiannus yn y farchnad swyddi.

Llongyfarchiadau i bawb y mae eu cyflawniadau wedi eu hanrhydeddu heno a diolch i’r timau o staff sy’n helpu i wneud y rhaglenni hyn mor llwyddiannus.