Skip to main content

Y diweddaraf am Gyfarfodau

Bwrdd Gweithredol y Brifysgol, 18 Mai 2015

18 Mai 2015
  • Cafodd y Bwrdd gyflwyniad ar ganlyniadau’r Arolwg o’r Staff. Nodwyd i’r arolwg ddenu cyfradd ymateb o 63%, cynnydd o 6% oddi ar arolwg 2011. Câi’r canlyniadau eu dadansoddi ymhellach cyn cael eu dosbarthu i’r staff drwy Blas.
  • Nodwyd i GW4 gael lle amlwg yn State of the Relationship Report 2015 gan y Ganolfan Genedlaethol dros Brifysgolion a Busnes.
  • Cafodd y Bwrdd bapur a amlinellai’r trefniadau llywodraethau a gynigir ar gyfer y ddau Adeilad Arloesi newydd. Yn amodol ar wneud rhai newidiadau mân i’r papur, cytunwyd ar y trefniadau llywodraethu.
  • Cafodd y Bwrdd y drafft o’r ymateb i’r ymgynghori ynghylch Adroddiad ar yr Adolygiad o Fuddsoddi mewn Addysg Iechyd Broffesiynol. Yn amodol ar wneud rhai newidiadau mân iddo, cytunwyd i gyflwyno’r ymateb i Lywodraeth Cymru.
  • Cafodd y Bwrdd y drafft o’r ymateb i ymgynghoriad yr Adran Busnes, Arloesi a Sgiliau (y BIS) ynghylch Cynorthwyo Astudio Ôl-raddedig. Yn amodol ar wneud rhai newidiadau mân iddo, a chynnwys y sylw y dylid rhoi mwy o bwyslais ar gynyddu’r arian grant yn hytrach na thargedu rhagor o gymorth i ymchwil ôl-raddedig i gyfeiriad system o fenthyciadau, caiff yr ymateb ei gyflwyno i’r BIS.
  • Cafodd y Bwrdd bapur ar Gynaladwyedd Amgylcheddol y Brifysgol a’r datganiad arfaethedig ynglŷn â’i gweledigaeth. Yn amodol ar wneud rhai newidiadau mân iddo, cytunwyd i gymeradwyo’r datganiad ynglŷn â’r weledigaeth a’r amcanion a’r targedau amgylcheddol ar gyfer 2015/16.
  • Cafodd y Bwrdd bapur gan y Grŵp Ffioedd Dysgu a amlinellai lefelau’r ffioedd a bennir ar gyfer 2015/16 a 2016/17. Cytunodd y Bwrdd ar lefelau’r ffioedd hynny ac fe ânt ymlaen i’r Pwyllgor Polisi ac Adnoddau i’w nodi.
  • Cafodd y Bwrdd bapur a amlinellai broses newydd ar gyfer craffu ar achosion busnes cyn iddynt gael eu cyflwyno i’r Bwrdd. Cytunwyd ar y broses yn amodol ar wneud rhai newidiadau mân iddi, ac fe gaiff ei hadolygu ymhen blwyddyn.
  • Nodwyd y caiff strategaethau lefel-uchel ac is-strategaethau Y Ffordd Ymlaen eu hadolygu’n flynyddol i sicrhau bod y geirio ynddynt yn gyfredol a pherthnasol. Nododd yr Athro Thomas ei fod yn dymuno adolygu’r is-strategaeth Ymgysylltu a chael mewnbwn gan Ms Sanders a Mrs Rawlinson. Wedi i hynny ddigwydd, fe aiff y strategaethau lefel-uchel a’r is-strategaethau i’r Cyngor i gael eu hystyried.

Cafodd y Bwrdd yr adroddiadau rheolaidd hyn:

  • Adroddiad Misol Dirprwy Is-Ganghellor Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg. Nododd yr adroddiad fod y dyfarniadau ymchwil i’r Coleg hyd at 30 Ebrill £9.2M yn uwch nag yr oeddent yr un adeg y llynedd. Daw’r Athro Diana Huffaker i’w swydd ym mis Awst 2015 ac i gadair a ariannir o dan gynllun Sêr Cymru. Bydd ei harbenigedd ymchwil yn cydategu’r sefydliad newydd, sef Sefydliad y Lled-Ddargludyddion Cyfansawdd. Mae dirprwyaeth lefel-uchel o’r Coleg wedi dychwelyd o Tsieina’n ddiweddar ar ôl bod ar daith yno i gynyddu ei amlygrwydd a chanfod cyfleoedd i recriwtio myfyrwyr. Nodwyd hefyd fod Deon Dysgu ac Addysgu y Coleg wedi sefydlu cyfres o grwpiau tasg a gorffen i ystyried asesu ac adborth, estyn-allan a derbyn, Learn+ a symudedd, lleoliadau a gwaith maes. Disgwylir i’r grwpiau gyflwyno’u hadroddiadau yn yr haf.
  • Adroddiad Misol Dirprwy Is-Ganghellor Coleg y Gwyddorau Meddygol a Gwyddorau Bywyd. Cyflwynai’r adroddiad y wybodaeth ddiweddaraf am y prosiect Medic Forward. Tynnwyd sylw at ymweliad yn ddiweddar gan ddirprwyaeth o Oman, taith a oedd wedi nodi rhai partneriaid defnyddiol y gellid cydweithio â hwy. Nododd yr adroddiad hefyd y byddai Claire Morgan, Deon Cyswllt Ansawdd a Safonau, yn ymadael ym mis Gorffennaf ac y byddai colled fawr ar ei hôl.
  • Adroddiad Misol Dirprwy Is-Ganghellor Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol. Nododd yr adroddiad fod cryn gynnydd wedi’i wneud ynglŷn â’r labordy newydd ynghylch Arloesi Gwasanaethau Cyhoeddus, sef partneriaeth rhwng Prifysgol Caerdydd, Nesta a Llywodraeth Cymru. Mae’r adroddiad hefyd yn cynnwys y newyddion diweddaraf am y cynigion a gymeradwywyd ynghylch ffordd wahanol o reoli’r prosesau o gadarnhau a chlirio.
  • Adroddiad Misol ar Weithgarwch: Safonau Academaidd a Phrofiad Myfyrwyr. Nododd yr adroddiad y câi achos busnes interim y Ganolfan Bywyd Myfyrwyr ei ystyried gan y Pwyllgor Polisi ac Adnoddau ac yna gan y Cyngor ym mis Mai. Rhoes yr adroddiad y wybodaeth ddiweddaraf am y cyfarfodydd neuadd-y-dref a gawsai eu cynnal yn ddiweddar ac y bu hyd at 600 o staff yn bresennol ynddynt. Nododd yr adroddiad hefyd y cyfraddau ymateb terfynol ar gyfer NSS, PTES (ôl-raddedig a addysgir) a PRES (ymchwil ôl-raddedig):
  • 2015 2014
    NSS 76% 80%
    PTES 41% 30%
    PRES 64% 55%
  • Adroddiad Misol y Prif Swyddog Gweithredu. Cynhwysai’r adroddiad fanylion y digwyddiad cynllunio a gynhaliwyd ym mis Ebrill i lunio drafft o gynllun gweithredu i’r Gwasanaethau Proffesiynol ar gyfer 2015/16. Cynhwysai’r adroddiad y wybodaeth ddiweddaraf gan bob un o Adrannau’r Gwasanaethau Proffesiynol corfforaethol.
  • Y wybodaeth ddiweddaraf am y Prosiectau Ystadau.
  • Briffiad y Bwrdd ynghylch canlyniad yr etholiad cyffredinol.