Skip to main content

Newyddion Aelodau’r Bwrdd

Amser cyffrous ar gyfer dysgu ac addysgu

21 Ebrill 2015

Y bore yma cynhaliwyd diweddariad ar ein portffolio o waith addysg sy’n ceisio trawsnewid dysgu ac addysgu ym Mhrifysgol Caerdydd. Daeth dros 200 o gydweithwyr i ddarganfod mwy am y datblygiadau cyffrous megis ein gwelliannau i’r mannau dysgu ffisegol i adnewyddu 70 o ystafelloedd y flwyddyn hyd at 2020; ein Canolfan Arloesedd Addysg a fydd yn darparu mynediad i adnoddau, hyfforddiant a chefnogaeth i helpu cydweithwyr i gyflwyno ymarfer dysgu ac addysgu arloesol; a’n Canolfan Bywyd Myfyriwr a fydd yn adeilad eiconig newydd ar Blas y Parc, a fydd yn gartref i’n holl wasanaethau Cymorth Myfyrwyr a Lles yr ydym yn ei ddatblygu mewn partneriaeth ag Undeb y Myfyrwyr.

Roedd lefel uchel o ddiddordeb a chydweithwyr yn chwilfrydig ynghylch sut y gallant gymryd rhan i helpu i yrru’r newid. Anogwyd pawb i ofyn cwestiynau ac roedd y rhai a oedd yn ymwneud â’r prosiectau ar gael i rannu manylion am y cynlluniau peilot. Dros y chwe mis nesaf, bydd hyd yn oed mwy o gyfleoedd i ni ymgysylltu â’n rhanddeiliaid i sicrhau bod ein newidiadau yn diwallu eu hanghenion.

Roedd y digwyddiad yn fy atgoffa o ba mor bell yr ydym wedi dod dros y flwyddyn ddiwethaf gydag arian wedi ei gadarnhau ar gyfer llawer o brosiectau a llawer mwy ar y gweill. Mae’n gyfnod cyffrous iawn ar gyfer dysgu ac addysgu ym Mhrifysgol Caerdydd.

Os ydych yn aelod o staff ac yr hoffech fynychu, gallwch gael mwy o wybodaeth yma.