Skip to main content

Y diweddaraf am Gyfarfodau

Bwrdd Gweithredol y Brifysgol, 20 Ebrill 2015

20 Ebrill 2015
  • Cafodd y Bwrdd y newyddion diweddaraf ar lafar am ‘faint a siâp’ y gwaith y mae’r adran Gynllunio wedi bod wrthi’n ei wneud yn ystod y flwyddyn. Caiff y Bwrdd grynodeb o niferoedd y myfyrwyr fesul Coleg a math (Israddedig, Ôl-raddedig a Addysgir, Ymchwil Ôl-raddedig a Chartref/UE a Rhyngwladol) ynghyd â’r cymarebau myfyrwyr:staff mewn cyfarfod diweddarach.
  • Cafodd y Bwrdd bapur gan y Cyfarwyddwr Cyfathrebu a Marchnata a roddai’r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith a wneir ar ganllawiau brand y Brifysgol. Nodwyd pwysigrwydd sicrhau bod cynfyfyrwyr yn teimlo’u bod yn perthyn i Brifysgol Caerdydd heddiw ac y byddai hynny’n bwnc i’w drafod ar gyfer argraffiad yr hydref o’r cylchgrawn i gynfyfyrwyr.
  • Cafodd y Bwrdd y newyddion diweddaraf am y Caniatâd Preswylio Biometrig (BRP) yr oedd y Swyddfa Gartref wedi’i gyflwyno ar gyfer 2015/16 yn achos pob myfyriwr rhyngwladol.

Cafodd y Bwrdd yr adroddiadau rheolaidd hyn:

  • Adroddiad Misol Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol. Nododd yr adroddiad i ddiwrnod cwrdd-i-ffwrdd Bwrdd y Coleg adolygu cynllun gweithredu y Coleg ar gyfer 2015/16. Bellach, caiff y drafft terfynol ei drafod yn niwrnod cwrdd-i-ffwrdd Tîm Arwain y Gwasanaethau Proffesiynol i sicrhau bod y gwasanaethau proffesiynol yn cydweithio i gefnogi’r cynllun. Cafwyd y newyddion diweddaraf am geisiadau’r Coleg o ran myfyrwyr israddedig, ôl-raddedig a addysgir ac ymchwil ôl-raddedig. Cafwyd y newyddion diweddaraf hefyd am gynnydd prosiect yr Economi Creadigol a gawsai ei sefydlu ym mis Gorffennaf 2014 am dair blynedd fel rhan o System Arloesi y Brifysgol. Ei brif nod yw gweithio gydag eraill i beri bod Caerdydd yn brifddinas creadigrwydd.
  • Adroddiad Misol ar Weithgareddau: Profiad Myfyrwyr a Safonau Academaidd. Rhoes yr adroddiad y wybodaeth ddiweddaraf am y Ganolfan Bywyd Myfyrwyr ac am gynnydd y Portffolio Newid Addysg. Yr oedd 600 o bobl eisoes wedi cofrestru i ddod i’r Cyfarfodydd Neuadd-y-Dref a gawsai eu hysbysebu yn Blas ac a gâi eu cynnal tua diwedd Ebrill.
  • Adroddiad Misol y Prif Swyddog Gweithredu. Ynddo, cafwyd y newyddion diweddaraf gan bob un o’r Adrannau Gwasanaethau Proffesiynol corfforaethol. Cafwyd y wybodaeth ddiweddaraf ynddo hefyd am weithgarwch y Prif Swyddog Gweithredu a’r cyfarfodydd y bu ynddynt.