Skip to main content

Newyddion Aelodau’r Bwrdd

Llyfrgelloedd: ddoe, heddiw ac yfory

31 Mawrth 2015

Fel cyn-fyfyriwr yng Nghaerdydd, roeddwn wrth fy modd yn mynychu’r dathliad i nodi adnewyddu llawr gwaelod Llyfrgell ASSL y Celfyddydau a’r Gwyddorau Cymdeithasol ar nos Fawrth. Mae cyfleusterau hunanwasanaeth newydd ar gyfer cyhoeddi a dychwelyd llyfrau, didolwr llyfr awtomatig, mannau eistedd anffurfiol newydd llachar, ardal benthyciad byr mwy o faint wedi ei amgáu gan wydr a silffoedd symudol ar gyfer cyfnodolion i gyd yn cyfrannu at brofiad gwell i fyfyrwyr ac academyddion. Mae Janet Peters a’i thîm wedi gwneud gwaith gwych ac mae’n werth ymweld.

Mynychwyd y digwyddiad gan nifer o gyn-fyfyrwyr. Darllenodd Joanne Meek, a raddiodd yn ddiweddar iawn gydag MA mewn Ysgrifennu Creadigol o 2014, ei gwaith atmosfferig “Jellyfish”, a gyrhaeddodd y rhestr fer ar gyfer gwobr Stori Fer Costa y gallwch ei lawrlwytho yma, a rhannodd ei gwerthfawrogiad am y llyfrgell hon fel porth i fyd gwybodaeth.

Roeddwn yn falch o rannu fy mhrofiadau o’r llyfrgell sbel yn ôl fel myfyriwr israddedig pan agorodd yn 1975 ac yna fel myfyriwr ôl-raddedig. Fel Clasurydd, rwy’n gwybod bod astudiaeth yn bosib yn unig oherwydd y gwerth a roddir gan yr hen amser ar y gair ysgrifenedig. Mae sgroliau, kodices, llyfrau wedi’i ysgrifennu ac yn dilyn hynny wedi eu hargraffu wedi cael eu cadw a’u gwneud yn hygyrch trwy lyfrgelloedd o’r hen amser hyd heddiw.

Agorwyd fy myd gan lyfrgell ASSL ddoe, er yn llyfrgell gwahanol iawn, “yn is o ran technoleg” i’r un yn 1975. Fe’i gwelais innau hefyd fel porth i gyfoeth o wybodaeth o gymdeithas a’r byd hynafol. Ond un a oedd hefyd yn deall y gwahanol anghenion astudio hyd yn oed bryd hynny – y bar coffi islawr oedd fy hoff le astudio.

Mae’r digido cynyddol o ddeunyddiau yn agor y byd hyd yn oed ymhellach ac yn gyflymach. Mae’r cymysgedd o fannau astudio tawel a hamddenol hygyrch ar gyfer hyd yn oed amseroedd agor hirach yn adlewyrchu anghenion newidiol myfyrwyr heddiw.

Mae’r llyfrgell heddiw wedi esblygu ac mae’r gwelliannau ar y llawr gwaelod yn dangos yn glir bod y gofal parhaus a thrawsnewid o’r llyfrgell mewn dwylo diogel gyda Janet Peters a’i thîm.

Mae llyfrgelloedd yn parhau i esblygu a datblygu, gan gynnwys yr ASSL. Bydd y llyfrgell yfory yn newid a thyfu. Yng Ngham 1 o brif gynllun ystadau’r Brifysgol mae cynlluniau mawr a chyffrous ar gyfer ymestyn a gwella’r ASSL wrth wraidd campws Cathays. Bydd cenedlaethau o fyfyrwyr y dyfodol yn cael y cyfle i brofi llyfrgell fel eu porth neilltuol, fel y gwnaeth Joanne a minnau yn ein cyfnodau priodol.