Skip to main content

Y diweddaraf am Gyfarfodau

Bwrdd Gweithredol y Brifysgol, 9 Chwefror 2015

9 Chwefror 2015
From left to right: Professor Patricia Price, Claire Sanders, Professor Hywel Thomas, Professor Dylan Jones, Professor Elizabeth Treasure, Professor Colin Riordan, Jayne Dowden, Professor George Boyne, Mike Davies and Professor Karen Holford.
From left to right: Professor Patricia Price, Claire Sanders, Professor Hywel Thomas, Professor Dylan Jones, Professor Elizabeth Treasure, Professor Colin Riordan, Jayne Dowden, Professor George Boyne, Mike Davies and Professor Karen Holford.
  • Trafododd y Bwrdd yr amlinelliad o’r rhaglen ar gyfer Diwrnod Cwrdd-i-Ffwrdd GW4 sydd ar y gweill.
  • Cafodd y Bwrdd y drafft o Arolwg Staff 2015. Nodwyd mai hwn fyddai’r trydydd arolwg. Nodwyd hefyd amlinelliad o’r cynigion ar gyfer prosesu ac adrodd ar yr arolwg ar ôl ei gynnal.
  • Nodwyd ffurflen TRAC y Brifysgol. Câi’r wybodaeth ynddi ei defnyddio gan CCAUC i gydymffurfio â llythyr y grant a châi’r data hefyd eu hadolygu gan RCUK, Trysorlys y DU a chyrff allanol eraill.

Cafodd y Bwrdd yr adroddiadau rheolaidd hyn:

  • Y Newyddion Misol Diweddaraf am Geisiadau Mynediad 2015/16.
  • Y Newyddion Diweddaraf am y Prosiectau Ystadau.
  • Adroddiad Misol Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol. Nododd yr adroddiad fod y Coleg, yn ystod misoedd Ionawr a Chwefror 2015, wedi cynnal ei holl gyfarfodydd staff yn ei Ysgolion. Daethai nifer helaeth o’r staff academaidd a staff y gwasanaethau proffesiynol i’r cyfarfodydd. Cyflwynwyd y sesiynau gan Ddirprwy Is-Ganghellor y Coleg, y Cofrestrydd, y Deon Rhyngwladol, y Deon Ymchwil a’r Deon Addysg a chanolbwynt y sesiynau briffio oedd rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Ysgolion am y cynnydd a oedd wedi’i wneud a’r cymorth a ddarparwyd gan y Coleg yn y meysydd hyn: cymorth ymchwil; blaenoriaethau strategol i addysg a myfyrwyr; datblygiadau rhyngwladol; timau gwasanaethau proffesiynol y Coleg; a buddsoddiadau’r Coleg mewn rolau academaidd.
  • Adroddiad Misol y Prif Swyddog Gweithredu. Ynddo cafwyd y newyddion diweddaraf gan bob un o’r Adrannau Gwasanaethau Proffesiynol corfforaethol. Nododd hefyd fod y Prif Swyddog wedi bod yng nghyfarfod blynyddol CCAUC lle cawsai gyfle i drafod yr heriau yn sector addysg uwch Cymru ac, yn arbennig, Adolygiad Diamond, ac effaith bosibl ariannu hyfforddiant ôl-raddedigion yn Lloegr.
  • Adroddiad ar Weithgareddau Ymgysylltu. Rhoes yr adroddiad y newyddion diweddaraf am bob un o’r pum prif brosiect ymgysylltu ac am y gweithgarwch ymgysylltu â Llywodraeth Cymru ers yr adroddiad diwethaf.
  • Adroddiad ar Weithgareddau Rhyngwladol. Yr adroddiad hwn oedd y cyntaf gan y Dirprwy Is-Ganghellor newydd ar gyfer Rhyngwladol ac Ewrop, yr Athro Nora de Leeuw.  Ynddo, cafwyd y newyddion diweddaraf am gynnydd partneriaeth Leuven, datblygiadau ynghylch Tsieina, y daith i’r Dwyrain Canol, y ceisiadau i Horizon 2020 a’r cyfraddau llwyddo.