Skip to main content

Newyddion Aelodau’r Bwrdd

Heriau Arloesi

5 Chwefror 2015

Sut allwn ni harneisio ein gwybodaeth a’n harbenigedd i greu dyfodol gwell? Sut allwn ni gyflwyno system o arloesi parhaus ar draws y campws sy’n darparu partneriaethau parhaol, cynhyrchu ffyniant, ac un sy’n adeiladu ar ein heffaith yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil? Archwiliwyd yr her o ddod â chynlluniau mawr, beiddgar i ddwyn ffrwyth, sefydlu system ar gyfer twf, a chreu campws arloesi newydd gyda chydweithwyr mewn gweithdy System Arloesi Caerdydd yn ddiweddar. Rhannodd yr Athro Kevin Morgan ei arbenigedd gyda ni, gan nodi’r ffyrdd cymhleth y mae prifysgolion yn creu cysylltiadau gyda busnesau, tra’n nodi, hefyd, y buddion mwy ‘ysgafn’ o arloesi, gan gynnwys cyfalaf dynol, swyddi i raddedigion, datblygiad cymdeithasol ac enw da. Gofynnodd i gynrychiolwyr ystyried diffinio ‘arfer da’ ac i edrych ar y rhwystrau i well cysylltiadau busnes. Nododd yr Athro Rick Delbridge y ffyrdd y mae’n rhaid i Gaerdydd ddatblygu ‘ethos arloesi.’ Mae Rick yn ddiweddar wedi dychwelyd o daith trawsatlantig i bennu cwmpas sut mae arloesi yn cael ei gyflwyno ar draws sefydliadau blaenllaw America, gan gynnwys labordy arloesi Harvard, a d.school Stanford. Mae’r heriau ar gyfer Caerdydd yn rhychwantu tri chylch, eglurodd Rick. Yn gyntaf, gwybyddol: gweithio allan yr hyn sydd o’n blaenau, derbyn ansicrwydd, a meithrin meddwl dargyfeiriol gwybyddol; yn ail, gwleidyddol – adeiladu prosesau gwneud penderfyniadau o fathau gwahanol, hadu cyllid ar gyfer prosiectau newydd ac adeiladu ‘strwythurau deuol’; ac yn olaf technegol, datblygu galluoedd technegol newydd a chofleidio rhwydweithiau partner newydd. Nododd Rick a Kevin ill dau ‘her adeiladol’ – chwaraeodd ystyriaeth o ran safbwyntiau gwahanol neu wrthwynebol – rôl weithredol wrth lunio sefydliadau arloesol mwyaf llwyddiannus y byd. Amlinellodd yr Athro Carole Tucker sut y bydd System Arloesi Caerdydd yn helpu i bontio’r bwlch rhwng profiad y myfyrwyr a’r byd tu allan. Byddai model cynaliadwy o welliant parhaus yn cryfhau partneriaethau busnes a chysylltiadau alumni, ac ymgorffori seilwaith i gefnogi arloesi ‘llawr gwlad’, datblygu’r genhedlaeth nesaf o ‘sêr ymchwil’ ac entrepreneuriaid sydd yn eu tro yn cefnogi israddedigion y dyfodol. Yn fyr, diwrnod gwych o drafod a dadlau. Byddwn yn bwydo ein syniadau i mewn i’n cynlluniau ar gyfer y dyfodol i’r CIS. Byddem hefyd yn hoffi clywed barn ac adborth, pa mor bynnag ddargyfeiriol neu ‘heriol yn adeiladol’ ydyn nhw, felly mae croeso i chi gysylltu â ni: pvc-research@caerdydd.ac.uk