
- Trafododd y Bwrdd yr amlinelliad o’r rhaglen ar gyfer Diwrnod Cwrdd-i-Ffwrdd GW4 sydd ar y gweill.
- Cafodd y Bwrdd y drafft o Arolwg Staff 2015. Nodwyd mai hwn fyddai’r trydydd arolwg. Nodwyd hefyd amlinelliad o’r cynigion ar gyfer prosesu ac adrodd ar yr arolwg ar ôl ei gynnal.
- Nodwyd ffurflen TRAC y Brifysgol. Câi’r wybodaeth ynddi ei defnyddio gan CCAUC i gydymffurfio â llythyr y grant a châi’r data hefyd eu hadolygu gan RCUK, Trysorlys y DU a chyrff allanol eraill.
Cafodd y Bwrdd yr adroddiadau rheolaidd hyn:
- Y Newyddion Misol Diweddaraf am Geisiadau Mynediad 2015/16.
- Y Newyddion Diweddaraf am y Prosiectau Ystadau.
- Adroddiad Misol Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol. Nododd yr adroddiad fod y Coleg, yn ystod misoedd Ionawr a Chwefror 2015, wedi cynnal ei holl gyfarfodydd staff yn ei Ysgolion. Daethai nifer helaeth o’r staff academaidd a staff y gwasanaethau proffesiynol i’r cyfarfodydd. Cyflwynwyd y sesiynau gan Ddirprwy Is-Ganghellor y Coleg, y Cofrestrydd, y Deon Rhyngwladol, y Deon Ymchwil a’r Deon Addysg a chanolbwynt y sesiynau briffio oedd rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Ysgolion am y cynnydd a oedd wedi’i wneud a’r cymorth a ddarparwyd gan y Coleg yn y meysydd hyn: cymorth ymchwil; blaenoriaethau strategol i addysg a myfyrwyr; datblygiadau rhyngwladol; timau gwasanaethau proffesiynol y Coleg; a buddsoddiadau’r Coleg mewn rolau academaidd.
- Adroddiad Misol y Prif Swyddog Gweithredu. Ynddo cafwyd y newyddion diweddaraf gan bob un o’r Adrannau Gwasanaethau Proffesiynol corfforaethol. Nododd hefyd fod y Prif Swyddog wedi bod yng nghyfarfod blynyddol CCAUC lle cawsai gyfle i drafod yr heriau yn sector addysg uwch Cymru ac, yn arbennig, Adolygiad Diamond, ac effaith bosibl ariannu hyfforddiant ôl-raddedigion yn Lloegr.
- Adroddiad ar Weithgareddau Ymgysylltu. Rhoes yr adroddiad y newyddion diweddaraf am bob un o’r pum prif brosiect ymgysylltu ac am y gweithgarwch ymgysylltu â Llywodraeth Cymru ers yr adroddiad diwethaf.
- Adroddiad ar Weithgareddau Rhyngwladol. Yr adroddiad hwn oedd y cyntaf gan y Dirprwy Is-Ganghellor newydd ar gyfer Rhyngwladol ac Ewrop, yr Athro Nora de Leeuw. Ynddo, cafwyd y newyddion diweddaraf am gynnydd partneriaeth Leuven, datblygiadau ynghylch Tsieina, y daith i’r Dwyrain Canol, y ceisiadau i Horizon 2020 a’r cyfraddau llwyddo.