Skip to main content

Y diweddaraf am Gyfarfodau

Bwrdd Gweithredol y Brifysgol, 2 Chwefror 2015

2 Chwefror 2015
  • Cafodd y Bwrdd bapur a amlinellai feini prawf Dangosyddion Perfformiad Allweddol y Ffordd Ymlaen. Cytunwyd mai’r flwyddyn a ddylai fod yn flwyddyn sylfaen i holl feini prawf y Dangosyddion Perfformiad Allweddol fyddai 2012/13, h.y. y flwyddyn y cyrhaeddodd yr Is-Ganghellor.
  • Adolygwyd papur a amlinellai risgiau lefel-uchel y Bwrdd. Cytunwyd y byddai’r gofrestr honno o risgiau’n awr yn mynd ymlaen i’r Pwyllgor Archwilio, y Pwyllgor Polisi ac Adnoddau, a’r Cyngor. Caiff yr ymagwedd hefyd ei thrafod gyda’r Cofrestryddion a’r Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Proffesiynol i’w gweithredu ym mhob un o feysydd y Brifysgol. 

Cafodd y Bwrdd yr adroddiadau rheolaidd hyn

  • Adroddiad misol y Cyfarwyddwyr Cyfathrebu a Marchnata. Nododd yr adroddiad i’r fewnrwyd gael ei lansio i’r staff, yn unol â’r cynllun, ar 14 Ionawr. Cafodd hi 4,000+ o ymwelwyr unigol yn yr wythnos gyntaf (sef ychydig dros 10,000 o ymweliadau ac edrychwyd ar 37,000 o dudalennau). Caiff y fewnrwyd ei lansio i fyfyrwyr ar 26 Ionawr. Rhoir y wedd derfynol ar gyhoeddiad mewnol ynglŷn â’r Prif Gynllun ar gyfer yr argraffiad nesaf o Blas ynghyd â diweddariadau i’r wefan. Caiff y cyhoeddiad newydd ynghylch Sefydliadau Ymchwil y Brifysgol hefyd ei wneud yn fewnol yn Blas (a datblygir cynlluniau i’w lansio’n allanol ym mis Medi).