Addysg Uwch i’r Genedl
22 Ionawr 2015Heddiw mynychais Gyfarfod Blynyddol y Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC). Roedd yn gyfle da i gwrdd ag aelodau Cyngor CCAUC yn ogystal â chymheiriaid o brifysgolion eraill yng Nghymru. Roedd cyffro mawr ynghylch pa mor dda yr oedd Sefydliadau Addysg Uwch Cymru (SAU) wedi perfformio yn y REF 2014. Nododd David Allen, Cadeirydd CCAUC fod “traean o’n hymchwil mewn gwirionedd yn arwain y ffordd ar draws y byd, a hanner arall yn cael cryn barch yn rhyngwladol … mater o bwys enfawr ar gyfer ein prifysgolion. Mae prifysgolion yng Nghymru hefyd wedi cael eu cydnabod am y cyfraniadau trawiadol maent yn eu gwneud y tu allan i’r byd academaidd, gyda hanner y gwaith a gyflwynwyd yn cael ‘effaith sy’n arwain y byd’ ar fywydau pob un ohonom”. Mae’n dda nodi bod Prifysgol Caerdydd wedi perfformio’n rhagorol ar y dangosydd effaith ac wedi ei gosod yn yr 2il safle yn y DU yn ogystal â chael ei gosod y 5ed prifysgol yn y DU yn seiliedig ar ansawdd yr ymchwil.
Yr her yn awr yw i ni i gyd wella a fydd yn arbennig o heriol o ystyried yr hinsawdd ariannol bresennol ar gyfer AU yng Nghymru. Achubais ar y cyfle i godi’r mater o gyllid ar gyfer Ôl-raddedigion a addysgir yng Nghymru ac ar gyfer myfyrwyr sy’n hanu o Gymru, rhywbeth a fydd heb amheuaeth yn nodwedd o fewn ymatebion sefydliadol i Adolygiad Diamond.
Yn y cyfarfod hefyd lansiwyd Addysg Uwch i’r Genedl, adroddiad cynhwysfawr ar yr hyn y mae prifysgolion Cymru yn ei wneud i Gymru. Mae’n edrych ar sut mae SAUau yng Nghymru yn cyfrannu at yr economi, twf, cynaliadwyedd, gofal iechyd, cymunedau, diwylliant a llawer o feysydd eraill sy’n bwysig i ddatblygiad y wlad. Mae’n amlwg bod newid sylweddol wedi bod yng Nghymru, ac mae angen i ni fod yn hyderus wrth gyfathrebu hynny.
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Rhagfyr 2022
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Medi 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014